Dysgu Cymraeg yr holl ffordd o Munich
gan Janet MacKenzie
Fy unig gysylltiad (bach iawn) â Chymru yw’r ffaith mod i wedi cael fy ngeni yn Lerpwl, ac rwyf ar ddeall gan gyswllt dibynadwy, ei bod hi’n brifddinas answyddogol Gogledd Cymru. Felly, fel plentyn yn y 50au roeddwn yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn y siopau yng nghanol y ddinas ac yn dod ar wyliau teulu i Morfa Nefyn. Roeddwn yn gweld yr iaith yn gyffrous o ddirgel. Pan gychwynnodd cyfres gan y BBC ar y radio ‘Improve Your Welsh’ yn 1967 nes i berswadio fy mam i brynu’r llyfr i fi oedd yn cyd-fynd â’r gyfres. Roedd yn cynnal sgyrsiau difrifol gyda mi fy hun ar weithgareddau cyfforddus confensiynol Alun a Gwen.
Dros bumdeg mlynedd yn ddiweddarach, byddech yn disgwyl i fi fod yn ‘Ddysgwr y Ganrif’ erbyn hyn, ond mi nes i adael y Gogledd Orllewin i ddilyn gradd yn y Ffrangeg, ac yna cymhwyster mewn llyfrgellyddiaeth cyn symud i’r Almaen weithio fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Munich. Blynyddoedd yn ddiweddarach mi nes i ddod ar draws Say Something in Welsh, a llwyddo i ailgydio yn fy mrwdfrydedd gwreiddiol dros yr iaith.
Ar ôl cwblhau’r holl gyrsiau SSIW nes i ddechrau chwilio am gyfleoedd eraill i ddysgu a dod ar draws Nant Gwrtheyrn ar y we. Mi fyddwn i wedi bod wrth fy modd mynychu cwrs preswyl (mae hyn yn parhau i fod ar dop fy rhestr bwced!) Ond roedd wastad rywbeth yn dal fi nôl, mae’r Nant yn bell o Munich, dwi ddim yn yrrwr hyderus ac roeddwn yn poeni am lonydd cul Cymru, a hefyd beth fyddwn i’n ei wneud efo fy ngŵr Almaeneg? Dydi o ddim yn siarad llawer o Saesneg heb sôn am Gymraeg!
Fodd bynnag, roeddwn yn parhau i ymweld â gwefan y Nant yn rheolaidd, dim ond i weld os drwy wyrth byddai taith awyren rhwng Munich a Llithfaen wedi cael ei chyflwyno ers y tro diwethaf i fi edrych. Dyma sut nes i weld bod un peth da yn gallu dod o Covid-19, sef cyrsiau ar-lein newydd. Nes i gofrestru yn gynt nag allwch chi ddweud “S’mae”, ar ôl ystyried am ychydig pa lefel fyddai’n addas i fi a phenderfynu fod yn ddewr a mynd am y Sylfaen. Wedi’r cwbl, mae’n RHAID bod rywfaint o’r Gymraeg dwi wedi dysgu dros y pumdeg mlynedd wedi glynu yn rhywle!
Roedd yn ddewis da; roedd ein tiwtor, Mathew, yn gefnogol iawn ac roedd y deunydd yn wych. Roeddwn i wedi darllen llawer yn y Gymraeg, felly roedd gen i afael cymharol ar yr eirfa a’r gramadeg, ond doeddwn i ddim wedi bod yn ddisgybledig wrth ymarfer pethau fel cyfamodau ac amseroedd – yn gryf ar theori ond yn fregus yn ymarferol. Mi wnaeth y cwrs Sylfaen roi cyfle i fi ymarfer a gwella fy hyder. Dwi’n barod wedi cofrestru ar gyfer y Cwrs Canolradd ym mis Rhagfyr.
Ond pam dwi’n dysgu Cymraeg pan nad oes gen i unrhyw gysylltiad â Chymru a dwi ddim hyd yn oed yn byw yng Nghymru? I ddechrau, mae dysgwyr Cymraeg yn cael gymaint o groeso cynnes ac anogaeth rhyfeddol, yng Nghymru ei hun a hefyd drwy’r gymuned ar-lein. O fy mhrofiad i gyda dysgu ieithoedd eraill, mae hyn yn unigryw. Yn ail, mae’r Gymraeg yn iaith hynod o ddiddorol a thlws. Ac yn drydydd, dyma’r allwedd i ddiwylliant a hunaniaeth gudd o dan drwynau’r di-Gymraeg, rhywbeth sydd wedi tybio lefel hollol newydd o bwysigrwydd o ystyried datblygiadau gwleidyddol yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ac wrth gwrs hefyd, mae’n gymaint o hwyl!