Edrych yn ôl o frig y don gan Rhodri Evans (Rheolwr Addysg)

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Edrych yn ôl o frig y don gan Rhodri Evans (Rheolwr Addysg)

Edrych yn ôl o frig y don
gan Rhodri Evans (Rheolwr Addysg)

Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, mi fydd yn anorfod ein bod, am ennyd fer rhwng gwibdeithiau meddyliol eraill, yn oedi i edrych nôl ar flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen. A phan y byddwn yn edrych nôl ar yr hyn a aeth heibio, siawns gen i mai ‘newid’ fyddai’r un gair a fyddai’n disgrifio’r cyfnod orau. Gair bach, mawr. Mae’n air sy’n gwyro tuag at y cadarnhaol yn amlach na pheidio, wrth i’r newid esgor ar ddatblygiad sydd, rhywsut neu’i gilydd, yn ‘well’ – ond yng nghyd-destun 2020, mae newid yn derm hefyd sydd wedi ei wthio ar deuluoedd ac ar gartrefi yn ddi-ofyn, wrth i’r pandemig rwygo bydoedd y tu ôl i ddrysau caeedig.

Dan y fath amgylchiadau, am wn i mai ceisio rhyw atgof o’r ‘arferol’ yw un o’r ychydig ddulliau o ymdopi a pharhau ar y llwybr. Yn hynny o beth, mae’r modd y mae trwch y boblogaeth wedi cynefino â dulliau newydd o weithredu wedi bod yn rhyfeddol – boed hynny’n golygu gweithio oddi ar fwrdd cegin sydd hefyd yn ddesg ac yn ystafell ddosbarth, i’r modd yr ydym yn cadw mewn cysylltiad â’n hanwyliaid dros fosaic sgrin Zoom. Un agwedd arall sydd wedi ei chofleidio gan bobl yw’r modd y maen nhw’n derbyn eu haddysg a chynnal eu diddordebau; rhywbeth y mae’r sector dysgu Cymraeg i oedolion wedi ei weld yn digwydd bron dros nos, a’r addasu i gynnal darpariaethau oddi mewn i hynny wedi digwydd fel mater o raid i bob pwrpas.

Fel darparwr preswyl sy’n ystyried y lleoliad o’i gwmpas i fod yn aelod hollbresennol o bob dosbarth sy’n cael ei gynnal ar y safle, roedd gorfod canslo cyrsiau a chau’r safle yn mynd yn gwbl groes i’r graen. Yn absenoldeb y lleoliad daearyddol, rhaid oedd ceisio i barhau i ddarparu ysbryd y Nant – ysbryd sydd, fel y gwŷr nifer ohonoch, yn gwbl unigryw.

Pan y ces i fy mhenodi yn Rheolwr Addysg yn mis Chwefror eleni, roedd archwilio’r cyfleoedd i ddatblygu elfennau digidol a rhithiol i’r ddarpariaeth yn nod strategol – ond nod a oedd yn mynd i fod yn fwy o broses hir-dymor nag o reidrwydd hanfodol. Golygodd lledaeniad yr haint yn ystod y don gyntaf ym mis Ebrill bod y fricsen wedi ei gollwng ar y sbardun a buan y daeth ryw egin o ddarpariaeth at ei gilydd. Cyn cynnig darpariaeth rithiol lawn ym mis Awst, roedd ein tiwtoriaid wedi bod yn cynnal sesiynau anffurfiol gyda’n dysgwyr ac wedi dechrau dysgu dosbarthiadau o ddysgwyr fel rhan o ymdrech aruthrol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gynnig cyrsiau am-ddim i ddysgwyr lefel Mynediad. Gweithgareddau a oedd yn golygu bod y Nant yma o hyd ac yn parhau i arwain ein dysgwyr ar eu taith iaith. Mae’r modd y mae ein tiwtoriaid wedi cofleidio’r cyfleoedd i ddelifro darpariaeth y Nant yn rhan annatod o stori’r flwyddyn a braf yw nodi bod hynny’n talu ar ei ganfed bellach, wrth i adborth gan ein dysgwyr nodi angerdd a gofal y tiwtoriaid wrth ddysgu ymhlith y prif resymau tros lwyddiant y cyrsiau.

Ers Awst felly, rydan ni wedi bod yn cynnig darpariaeth rithiol dros dridiau a thros gyfnod o bum niwrnod, yn dibynnu ar lefel y cwrs. Er mwyn gallu gwneud hynny, roedd angen ailasesu ein dulliau o gyfathrebu a marchnata ac o brosesu cofrestriadau. Er gwaetha’r heriau a ddaeth gyda hynny, rydan ni wedi dibynnu ar ein gilydd am gefnogaeth ac wedi llwyddo i addasu.

Ein bwriad oedd ailgydio yn y ddarpariaeth breswyl o fis Tachwedd ymlaen ond rhoddodd yr ail don a’i chyfyngiadau ddiwedd ar hynny. Am rŵan, parhau i ddarparu’n rhithiol y byddan ni ond wrth i ni glywed y newyddion gobeithiol am frechlyn posib ac wrth i fesurau iechyd cyhoeddus ddechrau cael effaith, mae’n codi’r galon i feddwl y bydd darpariaeth breswyl Nant Gwrtheyrn yn dychwelyd – mewn rhyw fodd, beth bynnag – yn 2021. Bydd ein cyrsiau Cymraeg Gwaith hefyd yn dychwelyd ar ffurf rhithiol rhwng Ionawr a Mawrth a’n gobaith yw y bydd cyfleoedd tuag at ddiwedd y cyfnod hwnnw inni gynnal ambell sesiwn ar y safle, wyneb-yn-wyneb.

Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i’n dysgwyr am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn anarferol hon. Mae’r angerdd dros ddysgu’r iaith, trwy ba bynnag gyfrwng, wedi gyrru ein holl ymdrechion dros y misoedd diwethaf. Mae fy niolch hefyd i’r tiwtoriaid am ymateb i’r her o addasu’r ddarpariaeth a’i chyflwyno’n llwyddiannus. Mae’r gallu i wneud hynny’n mynd i olygu bod Nant Gwrtheyrn yn y sefyllfa orau posib i wynebu’r cyfnod nesaf yn ei hanes.

Pob dymuniad da i chi a’ch anwyliaid dros y misoedd nesaf yma.

feeb