Ein Dysgwyr – Gordon Jones

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Ein Dysgwyr – Gordon Jones

Ganwyd Gordon ar aelwyd Gymraeg yn Alltwen ger Pontardawe. Nid yw Gordon wedi cael cyfle i siarad Cymraeg ers 1955. Mae’n byw yng Ngwlad yr Haf yn Lloegr ar hyn o bryd ac yn y gorffennol treuliodd bymtheg mlynedd fel Bwrsar mewn ysgol fonedd yn Honk Kong. Bu’n treulio wythnos gyda ni ar y cwrs Uwch 1. Mae Gordon wedi gwireddu ei freuddwyd o’r diwedd o gael dod i ddysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn.

“Dwi wedi mwynhau pob diwrnod yma a chael cwrdd â phobl eraill yn dysgu Cymraeg. Mae Eleri yn athrawes ardderchog “

Mae Gordon yn gobeithio dod yn ôl y flwyddyn nesaf ac am geisio perswadio ei ferch Ceri i ddod draw hefyd er mwyn cychwyn ei thaith iaith yn y Nant.

feeb