Dyma Judith Hunt a’i phengwin. Bu Judith yn mynychu’r cwrs Uwch 1 yr wythnos hon. Mae Judith a’i phengwin wedi teithio’r byd ac wedi mwynhau wythnos fendigedig yn y Nant. Dyma oedd ganddi i’w ddweud am y cwrs:
“Dw i a’r pengwin yn cytuno ei fod y profiad gorau erioed ac mae’r ddau ohonom wedi dysgu llawer am yr iaith gorau yn y byd. Diolch Eleri ac i bawb yn y Nant “
Mae’r gair penguin yn tarddu o’r Gymraeg yn wreiddiol medda nhw! Yn ôl yr hanes bu i Richard Hore lanio yn Cape Boston yn Newfoundland yn 1536 gyda chriw o forwyr o Gymru. Wedi mordaith hir bu iddynt gyfeirio at y creaduriaid digri yn cerdded o amgylch y lle fel y creadur gyda phen gwyn. Dyna’r stori beth bynnag!