Bu Eluned Morgan, Gweinidog dros y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, draw yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ar y 10fed o Fedi, 2019.
Yn ystod ei hymweliad, cafodd y Gweinidog gyfle i weld yr heriau yn ogystal â’r gwaith allweddol sy’n cael ei wneud yno mewn perthynas â chynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’i diwylliant.
Yn ystod ei hymweliad yn y Nant, roedd y bwrlwm gyda’r cyrsiau Cymraeg preswyl i’w deimlo’n atseinio yn y Cwm, a manteisiodd Eluned Morgan ar y cyfle i ymweld â’r dosbarthiadau dysgu Cymraeg ddydd Mawrth er mwyn cael blas o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Nant. Mae’r Nant ar hyn o bryd yn darparu cyrsiau preswyl Cymraeg i Oedolion ar draws ystod o lefelau yn ogystal â chynllun preswyl Defnyddio – Cymraeg Gwaith ar lefel Canolradd, Uwch ac Uwch-Gloywi, mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Prif nod y cynllun Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg o fewn gweithleoedd yng Nghymru. Mae’r cynllun bellach yn ei drydedd flwyddyn ac yn mynd o nerth i nerth.
Gwelwyd pwysigrwydd y cyrsiau preswyl a’r syniad fod dysgwyr yn cael eu trochi yn y Gymraeg ac yn magu hyder tra yn y Nant drwy fentro siarad yn y Gymraeg wrth fwynhau’r hanes a diwydiant yr ardal yn y fargen. Gwelwyd hefyd fod y dysgu yn rhan annatod o weledigaeth hirdymor y Nant ac yn gyfraniad pwysig tuag at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Meddai Eluned Morgan:
“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i ymweld â Nant Gwrtheyrn a thrafod y cyfraniad pwysig sy’n cael ei wneud i gyrraedd nod Cymraeg 2050 o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â’r cyfraniad mae’r ganolfan yn ei wneud i’r gymuned leol. Mae’n glir y bydd dysgwyr yn hollbwysig o ran cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”
“Roedd yn braf iawn cael ymweld â dosbarthiadau Cymraeg Gwaith a Chymraeg i Oedolion a chael y cyfle i sgwrsio gydag amryw o ddysgwyr oedd yn mwynhau dysgu Cymraeg mewn lleoliad mor fendigedig.”
Yn ôl y Cadeirydd, Mr Huw Jones, ‘un o fanteision mawr ein lleoliad ydy ein bod ni o fewn ardal lle mae’r Gymraeg yn dal i fod yn iaith bob dydd i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth leol’ ac mae hynny wedyn yn ‘sicrhau bod y rhai sy’n ei dysgu hefyd yn gyfforddus ac yn awyddus i’w defnyddio’.
Bu cyfle hefyd i weld datblygiadau diweddaraf y Nant yn y caffi a’r defnydd a wneir o’r adnoddau gan y dysgwyr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r adnoddau sydd yn y Nant wedi cael eu hadnewyddu a’u hehangu’n sylweddol, ac maent yn cael eu defnyddio at bob math o bwrpasau. Gyda’r Nant wedi croesawu dros 30,000 o ddysgwyr ers 1982 a bellach yn cyflogi 37 o bobl leol, mae’r weledigaeth wreiddiol o greu ‘Peiriant Cymreigio a darparu gwaith yn lleol’ wedi’i gwireddu. Mae cynlluniau ar y gweill i barhau i ddatblygu’r safle a’r adnoddau yn y dyfodol.