Ffilmio yn y Nant

Nant Gwrtheyrn > Ffilmio yn y Nant

Dros y blynyddoedd mae’r Nant wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ffilmio ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau. O raglenni dogfen i raglenni hamdden, ceir a natur. Heb anghofio fideo’r gân ‘Cold’ gan y cerddor James Blunt.

Nid oes syndod fod y Nant yn lleoliad mor boblogaidd ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth.

Materion cyfoes a’r newyddion

Os hoffech chi ffilmio rhaglen materion cyfoes neu newyddion yn y Nant, cysylltwch â’n tîm Marchnata a Chyfathrebu i drefnu: marchnata@nantgwrtheyrn.org

Ffilmio Masnachol

Os hoffech chi ffilmio yn Nant Gwrtheyrn, cysylltwch â’n Tîm Marchnata a Chyfathrebu i drefnu: marchnata@nantgwrtheyrn.org

Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais, darparu copi o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a chytuno i’n Cytundeb Lleoliad.

Rydym yn gofyn, os yn bosib, i chi geisio rhoi o leiaf wythnos o leiaf o rybudd i ni gael digon o amser i wneud unrhyw drefniadau perthnasol.

Ffioedd

Mae ein ffioedd yn ddibynnol ar anghenion, hyd ac amseriad y cynhyrchiad. Cysylltwch am fraslun o’n ffioedd.

Canllaw yn unig yw ein ffioedd a gellir gofyn am arian ychwanegol yn ddibynnol ar ffactorau megis amser y ffilmio, gofynion ar staff y Nant ac unrhyw amhariad i’n gwasanaethau arferol ar y safle. Byddem yn croesawu sgwrs a thrafodaeth gyda chi.

Llety ac arlwyo

Mae’r Nant ei hun yn darparu bwyd, lluniaeth a llety ar y safle ac fe fyddem yn awyddus i drafod sut y gall y gwasanaethau hyn fod o ddefnydd i’r cynhyrchiad.

Nant 1
2
M&Rh-322
B&C-4

Ffurflen gais

Ni ddylai ymgeiswyr fwrw ymlaen ag unrhyw drefniadau hyd nes y byddant wedi cael cadarnhad ar e-bost fod Nant Gwrtheyrn wedi cymeradwyo eu digwyddiad.