Fi a fy nghamera
gan Llinos Pritchard
Dwi’n teimlo’n lwcus i gael bod yn rhan o’r tîm prysur (cyn Covid) yn y swyddfa yn Nant Gwrtheyrn. Mae gweithio yn ‘Y Nant’, fel dan ni’n ei alw, yn brofiad llawer ehangach na gweithio 9 tan 5 tu ôl i’r ddesg a’r sgrin. Dros y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi mwynhau sawl egwyl cinio yn crwydro gyda fy nghamera a gwneud y mwyaf o brydferthwch hudolus y Nant.
Un o’r elfennau mwyaf arbennig am y Nant yw gallu profi’r tymhorau yn trawsnewid. Nid oes yr un diwrnod yr un fath a’i gilydd – o nosweithiau pan mae’r awyr yn binc rhamantus, i ddiwrnodau gwlyb a niwlog sydd fel petaent wedi eu llusgo o’r Oesoedd Canol.
Dwi wrth fy modd efo byd natur, yn crwydro ardaloedd hanesyddola thynnu lluniau llefydd prydferth, ac mae gweithio yn Nant Gwrtheyrn yn rhoi’r cyfle i mi ymddiddori yn y rhain i gyd.
Hanes bras y Nant
Mae’r Nant yn llawn hanes cyfoethog sydd yn mynd yn ôl i’r Oes Haearn, gydag olion clir ar gopa Tre’r Ceiri, sy’n cael ei ystyried yn un o’r caerau sydd wedi ei chadw orau yn Ewrop. Mae gan y Nant gyfoeth o chwedlau Cymreig hefyd, ac un arall o gyfnodau pwysig yr ardal yw’r Oes Ddiwydiannol – mae olion y chwareli yn amlwg ar hyd y lle.
Y daith i Borth y Nant yw un o fy hoff lwybrau ac wrth gerdded i lawr yno gallwch weld adfeilion chwareli ar hyd y clogwyn. Wrth gyrraedd y traeth, gallwch hefyd weld dau bostyn yn safle’r hen lanfa. Roedd y lanfa‘n ymestyn allan i’r môr, ac yno roedd llongau o ddinasoedd mawr fel Lerpwl yn casglu’r setiau ithfaen a’i chludo i adeiladu strydoedd.
Hanes yn ail godi, mis Mawrth 2020…
Dau bostyn yn unig o’r hen lanfa oedd i’w gweld tan yn ddiweddar. Yn dilyn y stormydd a welwyd ar ddechrau’r flwyddyn, digwyddodd rhywbeth rhyfeddol i dirlun y traeth.
Ar ôl cuddio am bedwar deg o flynyddoedd o dan gerrig y môr, mae oddeutu dwsin o stympiau pren yn hen lanfa wedi dod i’r fei. Yn wahanol i’r ddau bostyn nobl, mae’r stympiau wedi cael ei siapio fel pigau cywion mewn nyth.
Pleser oedd adrodd yr hanes ar raglen ‘Heno’ ar S4C yn ddiweddar: https://www.youtube.com/watch?v=0NWHHkJ_Ywo
Braf yw cael gweld y fan lle safai’r lanfa ers talwn. Fel arfer, canlyniad storm yw dinistr ond y tro hwn, mae’r storm wedi dod â darn o hanes y Nant ac o hanes y Cymry yn ôl i ni. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld yr olion unwaith eto, wedi i’r storm bresennol yma basio.