Fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg ar-lein gyda Nant Gwrtheyrn
gan Helen Blodwen Rees
Dwi wastad wedi teimlo’n Gymraeg: Blodwen yw fy enw canol ac roedd fy nhad yn siaradwr Cymraeg. Ond nes i erioed fyw yng Nghymru tan i fi a fy ngŵr benderfynu ymddeol i Gonwy rhai blynyddoedd yn ôl. Mi wnaethom ni fynychu cyrsiau yn Nant Gwrtheyrn gyda’n gilydd yn 2015 a 2016 gyda’r bwriad o ddychwelyd, ond rywsut mi aeth yr amser heibio a phrysurdeb bywyd wastad yn cael blaenoriaeth.
Pan welais y cyrsiau ar-lein yn cael eu hysbyseb yn ystod y cyfnod clo, nes i feddwl yn syth bod nhw’n gyrsiau delfrydol i fi gan fy mod yn hunan-ynysu adref. Dechreuais gyda’r cwrs Mynediad ym mis Awst ac yna’r cwrs Sylfaen ym mis Medi.
Roedd arddull cyflwyno’r cwrs ar-lein yn wych. Roedd pob dosbarth yn cynnwys cymysgedd dda o gyflwyniadau, sgyrsiau cyffredinol, sgyrsiau gyda phartner ac mewn grwpiau llai. Roedd yr awyrgylch yn hamddenol, ond pawb hefyd yn canolbwyntio ac yn gwrando’n dda. Mathew oedd y tiwtor ar y ddau gwrs. Mae o’n athro gwych: yn amyneddgar iawn ac yn ymateb gyda brwdfrydedd i gwestiynau pawb, yn ystod ac ar ôl y dosbarth. Roedd ei esboniadau yn glir iawn, a diolch i Mathew, dwi wedi dod i ddeall agweddau o’r iaith sydd wedi bod yn heriol i fi yn y gorffennol. Mae o’n dda iawn am esbonio pam a sut i ddweud pethau yn Gymraeg, yn cynnwys rheolau gramadeg cymhleth. Mae hi’n llawer haws i gofio pethau pan rydych yn deall y rheswm pam bod angen ei ddweud yn y ffordd yna.
Wrth eistedd ar fwrdd y gegin, mi roeddwn i yn colli Nant Gwrtheyrn, ond mae nifer o fanteision i ddysgu ar-lein. Roedd pobl yn y dosbarthiadau o rannau gwahanol y DU a thu hwnt – mor peth ag Awstralia a’r Almaen. Mae cyfarfod bobl o rannau eraill o’r byd sy’n dysgu Cymraeg yn ysbrydoledig.
Does gen i ddim sgiliau technegol gwych, ond roedd yr ystafell ddosbarth rhithiol yn hawdd iawn i gael mynediad iddo ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Roedd ymarfer yr iaith gydag un myfyriwr arall neu mewn grŵp bach yn gweithio cystal ar-lein a beth fyddai mewn ystafell ddosbarth yn y Nant. Roedd pawb yn derbyn llawlyfr cwrs o flaen llaw, felly roedd gennym bopeth oedd ei angen ar gyfer pob gwers.
Byddwn yn argymell cyrsiau ar-lein Nant Gwrtheyrn i unrhyw un sydd eisiau dechrau dysgu neu wella eu Cymraeg dros y gaeaf. Gyda chymaint o agweddau o’n bywyd yn teimlo mor ansicr ar hyn o bryd, mae dysgu Cymraeg gyda’n gilydd yn ddefnyddiol, yn hwyl ac yn brofiad gwerth chweil.