Annwyl gyfaill,
Fel rhan o ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn mae’r Nant yn trefnu Gŵyl y Nant – Dathlu 40 ar Ddydd Sadwrn, Medi 22, 2018.
I ddiolch am eich cyfraniad gwerthfawr, hoffwn eich gwahodd i ymuno yn y dathliadau. Am 2 o’r gloch y prynhawn bydd arddangosfa ‘Hanesyddol’ yn cael ei hagor yng Nghapel Seilo gyda darlith gan yr Athro Jason Walford Davies i ddilyn am 2:30 yn y Sgubor . Bydd derbyniad yn Neuadd y Nant am 3:30 gyda chyfle am sgwrs dros baned gyda staff ac Ymddiriedolwyr.
Hoffwn ddiolch yn fawr am eich cyfraniad sylweddol ac edrychaf ymlaen at eich croesawu i’r Nant.
Yn gywir iawn,
Carl Iwan Clowes
Llywydd a sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn