Agorwyd ffordd newydd Nant Gwrtheyrn yn swyddogol gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ar Ddydd Llun 17 Mawrth 2008. Mae’r gwelliannau yn cynnwys ehangu corneli, torri nôl ar y graig mewn mannau cul, mannau pasio , wal cerrig a rhwystrau dur yn y mannau serth, mynedfa newydd ar ben y cwm, maes parcio addas i 80 o geir ar waelod y cwm, ffordd newydd i’r caffi i gerbydau nwyddau, llwybrau addas i ymwelwyr anabl i bob man ar y safle a grid wartheg a ffensio i gadw’r geifr gwyllt a’r defaid all o’r pentref.
Roedd cost y prosiect yn agos i £450,000. [i]“Mae’r gwelliannau i’r ffordd yn gam cyntaf yn y datblygiad ac roedd rhaid eu cwblhau cyn ystyried gwelliannau i’r adeiladau a’r gwasanaethau”. meddai Jeff Williams Jones.