Ar ddydd Iau’r 13eg o Hydref, bu Alun Davies AC, yn ymweld â Chanolfan Iaith genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ble roedd yn agor adnoddau newydd y ganolfan. Mae’r adeiladau newydd yn cynnig adnodd ychwanegol i’r pentref gan gynnig llety ar gyfer hyd at 38 o bobl. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer grwpiau, teuluoedd a sefydliadau i ddod i fwynhau arlwy’r Nant. Gyda buddsoddiad o £1.6 miliwn wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Nant Gwrtheyrn wedi llwyddo i ehangu eu darpariaeth ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion, cynadleddau, ymweliadau grŵp a phriodasau. Yn ystod ei ymweliad, bydd y gweinidog yn trafod strategaeth ddrafft y Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Fel canolfan iaith genedlaethol ac un o’r prif ddarparwyr Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, mae Nant Gwrtheyrn wedi ymrwymo i gynorthwyo’r Llywodraeth i sicrhau rhai o’r amcanion sydd yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth ddrafft gan gynnwys; ‘annog a chefnogi’r broses o drosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd’ a ‘creu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle’. Bydd yr adnoddau newydd yn Nhŷ Canol yn cynnig y gofod delfrydol ar gyfer cyrsiau Cymraeg i’r teulu neu gyrsiau Cymraeg ar gyfer sefydliadau o bob math.
Cafodd y gweinidog ei groesawu i’r Nant gan Jeffrey Williams-Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, Carl Clowes, sylfaenydd a llywydd Nant Gwrtheyrn, Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn a Jim O’Rourke, Ymgynghorydd. Bu cyfle i Alun Davies AC flasu rhai o’r danteithion sydd ar gael yng Nghaffi Meinir cyn cael ei arwain ar daith gerdded o amgylch y safle. Bu cyfle i’r gweinidog ymweld â’r Plas sef canolfan addysg Nant Gwrtheyrn.
Dywed Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn:
Rydym eisoes wedi croesawu amryw o grwpiau i Dŷ Canol ac mae’r adeilad yn profi i fod yn ychwanegiad defnyddiol dros ben yn y pentref. Dyma gyfnod cyffrous iawn yn y Nant a bydd yr adnodd arbennig yma yn ein galluogi i wella ac ehangu ein darpariaeth ar gyfer y cwsmer. Pleser yw croesawu Alun Davies AC i’r Nant ac rwyf yn edrych ymlaen at ei gyflwyno i’r ddarpariaeth amrywiol sydd gennym i’w gynnig.