Fel pob sefydliad yng Nghymru, rydym yn dilyn y cyngor a’r diweddariadau sy’n cael eu darparu ynghylch COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Os y bydd angen i ni ganslo digwyddiadau yn y Nant o ganlyniad i newid yn y cyngor hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid yn syth ac yn gwneud pob ymdrech i ail-drefnu’r digwyddiadau hynny pan y bydd y sefyllfa ehangach yn caniatáu i ni gynnig amserlen amgen.
