Mi gawsom ddiwrnod da ddydd Llun gyda Dewin a Doti yn cyflwyno’r sioe newydd ‘Ffrindiau’r Môr’, sef sioe o hoff ganeuon plant ar thema’r Môr. Cawsom dair sioe wych yn Neuadd Rhys gyda llond gwlad o blant yn mwynhau’r arlwy. Bydd y sioe yn cael ei pherfformio mewn canolfannau ar hyd a lled Cymru fel rhan o daith ‘Gŵyl Dewin a Doti’ gan Mudiad Meithrin eleni. Os hoffech ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen yma: http://www.meithrin.cymru/gwyldewinadoti/
