Haf 2018

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Haf 2018

Yda’ chi’n cofio Gŵyl y Nant ‘stalwm? I ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn eleni, rydym yn cynnal gŵyl arbennig ar ddydd Sadwrn, Medi 22 i ddathlu’r garreg filltir sef ‘Gŵyl y Nant – Dathlu 40’. Bydd yr ŵyl yn cychwyn am 2 o’r gloch gyda lansiad arddangosfa ‘Hanesyddol’ fydd yn dilyn y datblygiadau o 1978 hyd heddiw, yna, darlith gan Yr Athro Jason Walford Davies am 2:30 yn y Sgubor gyda derbyniad i ddilyn yn Neuadd y Nant ble mae croeso cynnes i bawb ymuno am sgwrs dros baned gyda’r staff a’r ymddiriedolwyr. Bydd ‘Ras Rhys a Meinir’, sef ras draws gwlad 5.6 milltir o amgylch y Nant, yn cael ei chynnal ar nos Fawrth, Medi 18 a ‘Ras Elis Bach’ 1 filltir ar gyfer y plant, hefyd. Bydd adloniant yng Nghaffi Meinir ar ôl y ddwy ras.

I gloi’r ŵyl, bydd gig arbennig yn cael ei gynnal am 6 o’r gloch ar nos Sadwrn, Medi 22 gyda pherfformiadau gan Gethin a Glesni, Gwilym Bowen Rhys, Patrobas, Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Alys Williams a Band Pres Llareggub. Mae hi’n argoeli i fod yn noson a hanner! Mae tocynnau yn £15 ac ar gael i’w prynu yn Llên Llŷn neu yma yn y Nant drwy gysylltu â ni ar 01758 750 334.      

Bu Haf 2018 yn un eithriadol o brysur yma yn y Nant eleni! Braf oedd croesawu amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau yma dros fisoedd braf Mehefin, Gorffennaf ag Awst. Ymysg y rhain roedd Undeb Bedyddwyr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Esgobaeth Bangor, Cyswllt Ffermio, Prom Ysgolion Botwnnog a Glan y Môr, Gŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin a Chlwb Hwylio Nefyn, diolch i bawb am eu cefnogaeth! 

Mae cam cyntaf yr estyniad ar Gaffi Meinir bellach wedi ei gwblhau ac mae’r siop wedi cymryd ei lle yn dda yno. Rydym wedi mwynhau cyfarfod â chrefftwyr a chynhyrchwyr lleol wrth ddewis a dethol cynnyrch newydd i’w werthu. Erbyn hyn, mae amrywiaeth o gynnyrch lleol ynghyd â llyfrau i blant, oedolion a’r dysgwyr ar gael.

Bu gweithdai #Largo18 yn llwyddiant ysgubol gydag oddeutu 100 o blant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Fel rhan o’r gweithdai, roedd y plant yn creu ‘Murlun Mawr y Môr’ i ddathlu Blwyddyn y Môr, Croeso Cymru a bydd y murlun yn cael ei arddangos yn barhaol yn y capel. Cynhaliwyd y gweithdai dan nawdd Croeso Cymru. Diolch yn fawr iawn i Gwenda Williams am gynnal y gweithgareddau ac i Meinir Jones a chriw’r Ecoamgueddfa am sicrhau’r nawdd.

Roedd yn haf prysur iawn i’r adran Addysg hefyd, gydag amryw o gyrsiau llawn. Fe gawsom wythnos dda yn trafod dylanwad y môr ar fywydau trigolion Llŷn yng nghwmni dau diwtor gwadd, sef Delyth Roberts a Gwyneth Sol Owen ddechrau’r haf.  Mae cyrsiau fel hyn yn gyfle i fyfyrwyr astudio diwylliant y Cymry drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn ystod y dydd Iau bu taith fws yng ngofal Llŷr Titus o amgylch yr arfordir gyda chyfle i wrando ar straeon difyr a mwynhau’r golygfeydd godidog. 

Dyma griw cwrs Mynediad Rhan 1 yn mwynhau hufen iâ haeddiannol yn Glasu yn ystod y tywydd braf ym mis Gorffennaf.  Ymysg y mynychwyr roedd dysgwyr o Iwerddon a Dubai.  Mae’r criw yn gobeithio dychwelyd atom yn ystod y misoedd nesaf. 

Mae’r sesiynau sgwrsio yn dal i gael eu cynnal yma ar brynhawniau Mercher, diolch i gefnogaeth pobl leol sy’n gwirfoddoli i ddod draw i siarad gyda’n dysgwyr.  Os hoffech chi ddod i sgwrsio gyda’r dysgwyr cysylltwch â’r Swyddfa Addysg yn y Nant: addysg@nantgwrtheyrn.org.

feeb