Teitl y swydd: Staff gweini
Adran: Caffi Meinir / Arlwyo
Oriau: Naill ai Llawn Amser – 37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Sul yn ôl trefn rota fydd yn cynnwys oriau anghymdeithasol, a rhai penwythnosau a Gwyliau Banc
Neu
Rhan amser – oriau amrywiol, i’w trafod
Cyflog / tâl: Yn dibynnu ar brofiad ac oriau
Mae Nant Gwrtheyrn yn chwilio am gymorth brwdfrydig i fod yn rhan o’r tîm croesawgar yng Nghaffi Meinir, Nant Gwrtheyrn. Profiad o weithio mewn caffi neu fwyty yn ddymunol, ond ddim yn angenrheidiol
Mae’r gallu i siarad y Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y busnes.