Jambori Mehefin – Diwrnod hwyliog i’r teulu i gyd

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Jambori Mehefin – Diwrnod hwyliog i’r teulu i gyd

Fe gynhaliwyd prynhawn prysur o weithgareddau yn Nant Gwrtheyrn ar ddydd Sul, Mehefin 30ain. Yn ogystal a gwledd o gerddoriaeth byw gan Band Arall a’r Plu, daeth amryw o wynebau cyfarwydd i’r pentref i gyfarfod yr ymwelwyr – Jac y Jwc, Capten Hook a Sam Tan.

Diddanwyd y plant trwy gydol y prynhawn wrth gael peintio eu gwynebau, dysgu triciau newydd gan ein consuriwr a Mr Balwns tra roedd eu rhieni yn cael munud i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog yng Nghaffi Meinir. Roedd bws mini yn rhedeg i fyny i lawr yr allt er mwyn hwyluso’r parcio a diolch i nawdd sylweddol gan Gronfa’r Degwm, roedd mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’r holl ymwelwyr.

feeb