Mae cydweithio agos rhwng Nant Gwrtheyrn a Phrifysgol Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth wrth lansio ‘e-nant’, pecyn o adnoddau digidol ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad y Nant. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn neuadd y Nant fore Gwener y 6ed o Fawrth. Yn ogystal â dysgwyr presenol y Nant, cafwyd cynrychiolaeth o Brifysgol Caerdydd, Cymraeg i Oedolion a gan aelodau o fwrdd rheoli Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.
Torrwyd cacen arbennig i nodi’r achlysur gan Y Meddyg Carl Clowes, Sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, Mair Saunders, Prif weithredwraig Nant Gwrtheyrn, Pegi Talfryn, Rheolwr Addysg yngŷd â Jennifer Needs.
Ffrwyth gwaith ymchwil Jennifer Needs, Prifysgol Caerdydd, yw’r pecyn. Ei nod oedd i greu deunyddiau pwrpasol i gynorthwyo’r myfyrwyr Mynediad i adolygu’r gwaith a ddysgwyd yn y Nant yn ogystal â’u paratoi i sefyll arholiad CBAC. Roedd y lansiad yn gyfle i ddysgwyr presenol y Nant gael blas ar beth oedd gan yr adnodd newydd i’w gynnig. Noddwyd yr ymchwil gan KESS, menter sgiliau lefel uwch i Gymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru ac a gyllidir yn rhannol gan raglen gydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Dywed Adrian Price, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg a goruchwyliwr Jennifer, “Am nifer o flynyddoedd, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi bod yn arloesi cyrsiau dysgu-cyfunol, sy’n golygu cyfuno dysgu wyneb-i-wyneb a dysgu ar-lein. Mae wedi bod yn gyfle gwych i’r Brifysgol weithio gyda chwmni bach gwledig er lles yr iaith Gymraeg.”
Yn ôl Pegi Talfryn, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn, “bydd yr adnoddau hyn o fudd mawr i’n dysgwyr. Mae Jennifer wedi creu adnoddau cynhwysfawr sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Mae cymaint o ddysgwyr yn defnyddio adnoddau digidol ac mae’n siŵr y bydd croeso mawr iddynt.”
Dywed Jennifer, “mae’n fraint cael y cyfle i greu rhywbeth unigryw a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar daith ddysgu dysgwyr Nant Gwrtheyrn. Rwy’n mawr obeithio y bydd dysgwyr y Nant yn y dyfodol yn teimlo bod yr adnoddau nid yn unig yn effeithiol, ond yn berthnasol iddynt ac yn ddifyr hefyd.”