LANSIO ARDDANGOSFA A CHYNNIG CYFLE I YMWELWYR FLASU’R IAITH GYMRAEG
Nos Wener, 21 Gorffennaf 2006, am 6 o’r gloch, bydd Hywel Williams AS yn lansio arddangosfa gelf Amgylchedd a Iaith yng Nghanolfan Dreftadaeth Nant Gwrtheyrn.
Mae’r arddangosfa wedi’i threfnu ar y cyd rhwng Nant Gwrtheyrn ac Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog gyda chymorth ariannol gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy y Cynulliad.
Bydd y gwaith celf gan dri artist lleol yn dangos y berthynas rhwng yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg. Yr artistiaid yw Catrin Williams RCA o Bwllheli, Emrys Parry sy’n wreiddiol o Nefyn a Kim Atkinson o Uwchmynydd.
Bydd yr arddangosfa, fydd yn rhannol yng Nghanolfan Dreftadaeth Nant Gwrtheyrn ac yn rhannol ym mwyty Caffi Meinir hefyd ar y safle, i’w gweld bob dydd rhwng 22 Gorffennaf a 28 Awst 2006, 11am – 4pm.
Cynllun arall gan Nant Gwrtheyrn dros yr haf fydd Sesiynau Blasu Iaith wedi eu rhan-ariannu gan Fenter Iaith Gwynedd. Bydd y sesiynau awr a hanner o hyd yn cael eu cynnal yn Nant Gwrtheyrn, Abersoch a Phwllheli yn ystod mis Awst dan arweiniad yr actor poblogaidd Llion Williams. Byddant yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael gwybod mwy am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg mewn ffordd hwyliog a bywiog wrth wneud gweithgareddau a chwarae gemau fydd yn eu dysgu am enwau lleoedd, sut i ynganu geiriau Cymraeg, sut i gyfarch, gofyn am fwyd a diod a llawer iawn mwy. Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer pob oedran a gobeithio y bydd yn apelio at deuluoedd yn ogystal ag unigolion.
– DIWEDD –
Nodiadau i Olygyddion:
· Cynhelir y sesiynau blasu iaith, fydd yn awr a hanner o hyd, ar yr adegau ac yn y lleoliadau a ganlyn:
1 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
2 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
8 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
9 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
15 Awst 11am & 1.30pm Neuadd Bentref, Abersoch
16 Awst 11am & 1.30pm Clwb Hwylio, Pwllheli
22 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
23 Awst 11am & 1.30pm Canolfan Dreftadaeth y Nant
Cost y sesiynau fydd:
Oedolion £ 4
Plant £ 2
Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn) £10
Mae croeso i ohebwyr a ffotograffwyr ddod draw yn ystod lansiad yr arddangosfa neu un o’r sesiynau blasu iaith drwy drefniant ymlaen llaw gydag Eleri Williams, Rheolwr Marchnata.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Eleri Williams, Rheolwr Marchnata Nant Gwrtheyrn ar 01758 750334 neu eleri@nantgwrtheyrn.org.