Aros

yn Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn > Aros

nant-gwrtheyrn-cottages-09

Gwely a Brecwast

Ymlaciwch yn ein hystafelloedd en-suite 4* (Llety Grŵp, Croeso Cymru).

Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn 1860 yn Nant Gwrtheyrn wedi cael eu trosi yn llety moethus unigryw…

nant_gwrtheyrn_stay_03

Llety Grŵp

Gall amryw o grwpiau aros yma yn Nant Gwrtheyrn yn ein llety grŵp unigryw – o fod yn grwpiau addysgiadol, cerdded, diddordebau arbennig, priodasau, partïon, cynadleddau a grwpiau ar wyliau…

Ystafelloedd yn cysgu hyd at 5 o bobl ynghyd â defnydd o neuadd aml bwrpas…

nant-gwrtheyrn-cottages-10

Hunan arlwyo

Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd godidog o’r môr, ym mythynnod Nant Gwrtheyrn – Mae’r bythynnod o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen.

“Mi gawsom arhosiad bendigedig yn Nant Gwrtheyrn. Fyddai o ddim wedi gallu bod yn fwy perffaith. Roedd hi mor braf cael y lle i ni ein hunain. Roedd y machlud cystal â machlud Santorini. Roedd yn wefreiddiol!”

Scott and Ruth Metcalfe

“Cawsom arhosiad rhyfeddol yn Nant Gwrtheyrn. Safle arbennig, bwthyn cyfforddus, staff clên a chyfeillgar. Fe wnaethom fwynhau’n fawr. Am ran hyfryd o Gymru.”

“Rydym newydd dreulio ychydig ddyddiau hyfryd dros ben gyda’r teulu yn un o fythynnod hunan-arlwyo’r Nant. Ddiolch yn arbennig i’r staff am hwyluso’r holl drefniadau mor effeithlon dan amgylchiadau anodd. Roedd yr wyres fach wedi cael amser wrth ei bodd.”

    Llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad â chi.

    Rydym yn derbyn nifer yn uwch na’r arfer o ymholiadau. Gall hyn olygu rhywfaint o oedi yn ein hymateb. Diolch i chi o flaen llaw am eich amynedd, byddwn yn ymateb eich neges mor fuan â phosib ac yn ateb ymholiadau yn y drefn byddwn yn ei derbyn. Diolch am eich cydweithrediad.