Gwely a Brecwast

Nant Gwrtheyrn > Aros > Gwely a Brecwast

Llety Gwely a Brecwast ar Benrhyn Llŷn

Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn Nant Gwrtheyrn ym 1860 wedi cael eu trawsnewid i lety grŵp modern 4* sydd wedi eu credydu gan Groeso Cymru…

Ceir 30 ystafell wely en suite, gyda chymysgedd o ddau wely sengl neu un gwely dwbl. Mae dwy gydag un gwely sengl a dwy arall yn ystafelloedd teulu gyda gwely dwbl a sengl yn yr un ystafell. Mae bob un o’r ystafelloedd gwely ystafelloedd ymolchi en suite gyda chawod, ar wahân i ddwy sydd â baddon a chawod dros y baddon.

Mae gan bob ystafell gysylltiad â’r rhyngrwyd ond nid oes setiau teledu na radio yn Nant Gwrtheyrn. Nid yw’n bosibl cael signal a chredwn fod absenoldeb teledu a radio yn cyfrannu at dawelwch y Nant.

Ceir dwy lolfa sydd yn addas ar gyfer grwpiau bach sy’n aros yn yr ystafelloedd gwely en-suite.

Gwresogir y bythynnod gan system wresogi o dan y llawr a chynhyrchir y gwres gan bympiau sy’n defnyddio gwres yr aer.

Mae’r lloriau a’r dodrefn wedi eu gwneud o dderw solat. Ceir gwelyau cyfforddus iawn wedi eu gwneud gan y Welsh Bed Company sy’n cyflenwi gwelyau ar gyfer gwestai 5* ar draws Ewrop.

Gwirio Argaeledd

Cysylltwch â ni at 01758 750 334 i wirio argaeledd neu gallwch lenwi’r ffurflen isod.