Tŷ Canol

Nant Gwrtheyrn > Aros > Tŷ Canol

Llety Gwely a Brecwast ar gyfer Grwpiau

Mae Tŷ Canol yn cynnig llety gwely a brecwast ar gyfer grwpiau o hyd at 38 mewn nifer. Rydym yn croesawu grwpiau addysgiadol, cerdded, diddordebau arbennig, priodasau, partïon, cynadleddau a grwpiau ar wyliau. Mae’r ystafelloedd yn amgylchynu’r Sgubor, sef neuadd aml bwrpas sydd yn berffaith ar gyfer cynnal cyfarfodydd neu gymdeithasu. Mae pob ystafell yn Nhŷ Canol yn cynnig golygfeydd godidog o’r môr neu’r mynydd…

Mae llety Tŷ Canol yn cynnig 10 ystafell en-suite:

4 stiwdio yn cysgu 5

2 ystafell yn cysgu 3

4 ystafell yn cysgu 2

Mae posib gosod y gwlâu o fewn yr ystafelloedd fel gwlâu dwbl neu sengl, gan gynnig hyblygrwydd er mwyn ateb gofynion y gwestai.

Mae gan bob ystafell ddesg a chadair, cysylltiad am ddim â’r rhyngrwyd a golau sy’n addas ar gyfer gweithio, darllen neu ymlacio.

Mae pob un o’r ystafelloedd yn Nhŷ Canol yn cynnwys en-suite gyda chawod a toiled, yn ogystal a gegin fach yn yr ystafelloedd sydd yn cysgu 5.

Gwresogir yr ystafelloedd gan system wresogi bio mass. Mae’r lloriau a’r dodrefn wedi eu gwneud â llaw o dderw solat gan grefftwyr Cymreig. Ceir carthen draddodiadol wedi ei chynllunio yn arbennig ar gyfer Nant Gwrtheyrn gan Felin Tregwynt ar bob gwely.

Gwirio argaeledd

Cysylltwch â ni at 01758 750 334 i wirio argaeledd neu cwbwlhewch y ffurflen isod.