Llongyfarchiadau mawr i Blair Wallace, dysgwr Cymraeg y flwyddyn 2020 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Blair yn dod yn wreiddiol o Aberdeen ac wedi treulio amser yn y Nant yn dysgu Cymraeg.
Pleser oedd noddi’r wobr a mynychu’r seremoni neithiwr i weld yr holl ddysgwyr ysbrydoledig sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd. Gwych gweld cyflogwr yn cydnabod ymroddiad eu staff i ddysgu’r Gymraeg. Da iawn pawb.