Llyfr i blant yn trafod y coronafeirws ar gael yn Gymraeg diolch i diwtor y Nant

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Llyfr i blant yn trafod y coronafeirws ar gael yn Gymraeg diolch i diwtor y Nant

Mae pawb ohonom yn gwneud be fedrwn ni i ymdopi yn ystod y cyfnod dyrys hwn. Mae wedi troi ein bywydau wyneb i waered, ond mae hefyd yn rhoi amser i ni ystyried, yn rhoi amser i fod yn greadigol ac yn rhoi amser i’r rhai sy’n gallu gwneud hynny, i fod yn garedig a helpu eraill.

Un o’r bobl sydd wedi bod yn cadw ei hun yn brysur yw Shân Gwenfron Jones, tiwtor Cymraeg i Oedolion yn y Nant. Mae Shân wedi rhoi o’i hamser yn rhad ac am ddim i gyfieithu llyfr i blant sy’n trafod y firws.

Mae’r llyfr ‘Jasper a Tabitha yn chwarae triciau ar y coronas’ wedi ei ysgrifennu gan Taylor Purvis, meddyg teulu o Connecticut, sydd tuag awr a hanner y tu allan i Efrog Newydd. Bu Taylor ar gwrs gyda Shân yn y Nant y llynedd, ac ers hynny mae’r ddwy wedi cadw mewn cysylltiad.

Dywedodd Shân: “Roeddwn yn teimlo fy mod angen gwneud rhywbeth i helpu. Does neb yn gwybod eto sut fydd hyn i gyd yn effeithio ar blant ond efallai y gall darllen stori Mr. Corona iddynt wneud gwahaniaeth bach.

“Mae cyfathrebu yn arf pwysig iawn yn ystod y cyfnod yma. Roedd Taylor yn awyddus i rannu’r stori yn rhad ac am ddim ar-lein a chyfathrebu â chymaint o blant â phosib. Mae ceisio deall y sefyllfa ac yna ei gyfathrebu gyda phlant yn hollbwysig. Mae parhau i siarad gyda’n plant a’n gilydd drwy ddefnyddio dulliau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol yn sicrhau ein bod yn cadw’n saff ac yn hwyliog drwy’r cyfan.”

Mae’r Nant yn lwcus o gael staff mor dalentog a charedig!

Mae’r llyfr ‘Jasper a Tablitha yn chwarae triciau ar y coronas’ yn adnodd gwych i’ch helpu chi i esbonio’r firws i’ch plant. Mae’n stori ddifyr, yn llawn dyluniadau tlws ac ar gael yn rhad ac am ddim: https://playatrickonthecoronas.weebly.com/translations.html

Shan Jones
Taylor & Geraint
feeb