“Mae newid ar ddod licio fo neu beidio.” (Greta Thunberg)

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > “Mae newid ar ddod licio fo neu beidio.” (Greta Thunberg)

“Mae newid ar ddod licio fo neu beidio.” (Greta Thunberg)
gan Eirian Davies

I’r rhai ohonom sy’n perthyn i genhedlaeth arbennig, roedd y gair Zoom yn cyfeirio at yr ice lolly siap roced coch, melyn a gwyrdd oedd gofyn ei lyfu/fwyta yn reit sydyn cyn iddo ddechrau dripian lawr y bysedd, y dwylo a’r arddyrnau yn ystod yr hafau hirfelyn tesog oedd i’w cael ers talwm. Nid yn aml oedd hynny’n digwydd, wrth gwrs, gan mai trît bach rŵan ac yn y man oedd prynu ice lolly o’r siop. Doedd bod â rhewgell yn y tŷ ddim mor gyffredin yr adeg honno.

Erbyn hyn, Zoom ydi’r cyfrwng technolegol poblogaidd sy’n galluogi i deuluoedd o bedwar ban Cymru a’r byd gysylltu â’i gilydd, neu i gyfarfodydd ddod ynghyd i wneud penderfyniadau tyngedfennol fydd yn effeithio ar ein bywydau ni oll. Mae hyd yn oed ein gwersi Cymraeg dan adain Nant Gwrtheyrn yn cael eu cynnal dros Zoom yn hytrach na bod y tiwtor yn cael bod mewn dosbarth wyneb yn wyneb â’r siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi ymroi i agor y drws i iaith a diwylliant newydd.

Does dim dwywaith fod cyfnod y Clo Mawr wedi dysgu llawer o bethau newydd i ni, boed sut i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i siarad ag anwyliaid neu i archebu nwyddau ar-lein. Ond yr hyn sydd, a dwi’n siŵr fydd, yn aros yn y cof am yn hir iawn ydi bod y misoedd diwethaf wedi ein dysgu i werthfawrogi yr ardal sydd ar ein stepan drws a bod yn ddiolchgar ein bod yn byw mewn ardal mor brydferth â gogledd Cymru.

Oherwydd y cyfyngiad ar deithio oedd arnom, faint ohonom ysgwn i oedd yn rhoi mwy o sylw i’r ardd, nid yn unig i dwtio’r borderi a gofalu am y lawnt, ond hefyd efallai roi cynnig ar blannu ychydig o domatos neu datws? Braf hefyd oedd dotio ac ymchwilio i enwau yr adar oedd yn bwyta’r cnau a’r blocyn siwet – a hyd yn oed mynd ati i archebu llyfr bendigedig Onwy Gower Llyfr Adar Mawr y Plant er mwyn dysgu mwy amdanynt. A phwy all anghofio’r lliw glas godidog oedd ar yr awyr yn ystod y tywydd braf fis Ebrill a’r nosweithiau clir lle roedd y lleuad a’r sêr yn llawer mwy llachar nag y buont ers hafau plentyndod.

Wrth edrych allan cyn noswylio ddiwedd mis Mai roedd hyd yn oed modd syllu mewn rhyfeddod ar smotyn bach melyn o roced lansiwyd o Ganolfan Ofod Kennedy yn Florida oedd ar ei thaith 19 awr i’r lanfa ynghanol nunlle. Ai cyd-ddigwyddiad oedd inni allu ei gweld, neu a oedd y gostyngiad gorfodol yn y miliynau o geir yn gwibio’n ddi-bwrpas ar hyd a lled y wlad, a’r awyrennau oedd yn eistedd yn segur yn y Meysydd Awyr yn hytrach na gadael eu holion carbon gwenwynig yn yr awyr wir yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd yr aer? Siŵr o fod!

Er mor rhwystredig a phryderus oedd y cyfnod (ac mae’n parhau i fod felly i lawer) efallai ei fod wedi ein gorfodi, er gwell neu er gwaeth, i asesu beth yn union sy’n bwysig yn ein bywydau.

Ond, rŵan fod y clo yn llacio, beth am y dyfodol? Ydan ni am fynd yn ôl at yr hen arferion o ruthro o un lle i’r llall heb gymryd saib i sefyll a gwerthfawrogi yr hyn sydd o’n cwmpas? All bywyd fyth fod yn gyflawn heb y ‘must have’ diweddaraf a Duw a’m gwaredo, “mae fy roots i angen lliw”? Neu a allwn ddal gafael ar y crwydro hamddenol ar hyd lonydd gwledig, tawel, di-geir. Cyfarch a sgwrsio – o bellter – â chydnabod a dieithriaid. Rhannu pryderon tra’n codi’r galon yr un pryd. Dipyn o’r ddau hwyrach. Balans.

Yn sicr, mae lle gwerthfawr a phwysig i’r dulliau technolegol newydd sydd ar gael a gallwn eu defnyddio ochr yn ochr â’r dulliau traddodiadol. Rydym wedi gweld nad oes angen teithio pedair awr o un pen y wlad i’r llall er mwyn cael cyfarfod sy’n para am ddwy awr. Meddyliwch am yr amser sy’n cael ei wastraffu, y costau teithio heb sôn am y nwyon andwyol sy’n cael eu tywallt i’n cymunedau, pan ellid cynnal y cyfarfod a dod i benderfyniadau yn ddigon rhwydd heb symud cam o’n cartrefi.

Ni fydd byth guro ar drosglwyddo diwylliant a dysgu iaith wyneb yn wyneb a rhoi cyfle i’r siaradwyr newydd sgwrsio mewn parau neu grwpiau mewn ystafell ddosbarth go iawn, ond yn ddi-os mae cyfle arloesol a chyffrous i’r defnydd o Zoom a’i ‘breakout rooms’ i barhad y Gymru Gymraeg.

Gan i mi gychwyn efo dyfyniad cyfoes gan ferch ifanc sy’n angerddol am ddyfodol y blaned, dwi am orffen gyda dyfyniad gan y gwleidydd hanesyddol dadleuol, Vladimir Lenin, sy’n crisialu cyfnod y Clo Mawr i’r dim:

 “Ceir degawdau lle nad oes dim yn digwydd; a cheir wythnosau lle mae degawdau yn digwydd.”  Trafodwch!

feeb