Bydd diwrnodau Nadoligaidd iawn yn cael eu cynnal yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer ysgolion cynradd yr wythnos hon a’r wythnos nesaf.
Mae’r gweithgareddau wedi eu hanelu ar gyfer disgyblion cynradd ac mae’r diwrnod cyfan yn canolbwyntio ar sut y byddai’n cyndeidiau yng Nghymru wedi dathlu’r Nadolig.
Bydd Jên Glyn, Grey Evans ac Edward Morris Jones yn adrodd straeon, yn chwarae gemau traddodiadol ac yn canu carolau Cymreig, Elen ac Eleri (staff y Nant) yn dangos sut i greu addurniadau ac yn sôn am arferion Calan a chanu Plygain, cyn i Glyn Jones o Bencaenewydd ddangos yr hen draddodiad noswyl Nadolig o dynnu cyflaith.
Ac i’w hatgoffa o’r diwrnod bydd bob plentyn yn cael mynd â chwdyn o gyflaith a’u haddurn Nadolig gartref gyda nhw.
Dywedodd Elen Thomas, Swyddog Addysg y Nant a threfnydd y gweithgareddau,
“Drwy ddod i’r Nant i ddysgu am yr arferion Cymreig yma rydym yn gobeithio y bydd y plant yn cadw’r traddodiadau i fynd am genhedlaeth arall. Bydd plant yn heidio yma o bob cwr o Wynedd dros y pythefnos nesaf a gobeithio y bydd yna’r un faint o ddiddordeb yn yr wythnos weithgareddau fyddwn ni’n ei chynnal ym mis Ionawr – gweithdy celf ar thema Santes Dwynwen.”
Ychwanegodd:
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Cyngor Celfyddydau Cymru am ran-ariannu’r gweithgareddau Nadolig – mae’n gymorth mawr i ni allu cynnig y profiadau gwerthfawr yma i gymaint o blant Gwynedd a thu hwnt.”