Y diweddaraf ynglŷn â’r Coronafeirws (COVID-19)

Nant G a fi gan John Williams

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Nant G a fi gan John Williams

Nant G a fi
gan John Williams

O’n i newydd gorffen cwrs sylfaen dysgu Cymraeg gan Y Prifysgol Agored (2010) ac yn meddwl: Wel, dw’i ‘di gweithio yn eitha’ galed dros blwyddyn a wedi cael blas o’r iaith ond heb cael y gallu i ddweud lot. Ydw i’n mynd i adael pethau fel ‘na ar ôl buddsoddi blwyddyn ynddo neu … ? Dw i’n byw yn Rhydychen (Oxford) yn Lloegr ers blynyddoedd a doedd dim llawer o cyfleodd dysgu’r Gymraeg yma – dyna pam nes i dewis cwrs y Brifysgol.

O’n i wedi eisiau dysgu’r Gymraeg ers o’n i’n blentyn.  Ail mab ffermwr Dyffryn Ceiriog oedd ‘nhaid ond doedd dim gwaith ar y fferm iddo, felly symudodd i Lundain lle caeth ‘nhad ei eni.  Do’n i ddim yn cael y gyfle i nabod ‘nhaid, bu farw pan o’n i’n baban bach – falle teimlad oedd rhywbeth Cymreig ar goll oedd tu cefn yr eisiau i mi dysgu’r iaith. Degawdau yn ôl nes i trio dysgu’r Gymraeg pan o’n i yn fy ugeiniau gan mynd i’r dosbarth nos yn Llundain, ond o’n ei ffeindio fo yn digon galed a doedd gen i ddim llawer o amser i ddyfalbarhau. Dyna sut oedd pethau yn cael eu gadael tan, bron pedwar deg mlynedd wedyn, clywais am y gwrs Prifysgol Agored a rŵan dyma fi oedd wedi gorffen y cwrs ,’na heb gwybod sut yn mynd ymlaen.  A dyna pan weles i ar S4C hysbyseb am cyrsiau Cymraeg yn lle oedd yn edrych yn hardd iawn – Nant Gwrtheyrn. Penderfynais yn syth cofrestru ar y cwrs Sylfaen yno.

Ychydig o fisoedd wedyn yn 2012 o’n i ar y ffordd i lawr i’r Nant yn rhyfeddu am y golygfeydd anhygoel dros y môr ac i lawr i’r pentref Nant G. A dweud y gwir, o’n i’n eitha’ nerfus ond doedd dim angen – ar gyrraedd mi ges i groeso cynnes yn y swyddfa a trwy’r wythnos oedd y tiwtoriaid, staff y caffi ac yn y swyddfa yn gwneud popeth i helpu ni dysgu ac yn teimlo cartrefol.  Oedd y criw o fyfyrwyr yn grêt hefyd.  Naeth y Cwrs rhoi’r hyder i mi o’n i angen ac oedd wedi ysbrydoli fi i dal ati i ddysgu’r iaith. Gan tiwtor y cwrs mi glywais i am gwersi ar lein SaySomethingInWelsh oedd yn helpu fi parhau efo’r Gymraeg ar ôl i mi fynd adref.

Ers hynny dw i ‘di bod ar lawer o gyrsiau yn y Nant. Oes gan i ffefryn?  Mae’n anodd iawn dewis. Dw i ‘di mwynhau pob un ohonyn nhw ac wedi teimlo fod ‘Nghymraeg ‘di gwella pob tro. Ond os oes rhaid i mi, fyddai i’n dewis rhwng cyrsiau Uwch 2, sef cyrsiau sy’n rhoi cyfle i ymarfer siarad wrth dysgu am pynciau penodol a diddorol am fywyd a diwylliant Cymreig a Cymraeg efo tiwtoriaid sy’n nabod ei stwff. Ymysg y rhain, Cyrsiau Awduron Cymraeg gan Bethan Gwanas a Chwrs Ffilmiau Cymraeg gan Mared Llywelyn Williams wedi bod ffefrynnau fi – diddorol a llawer o hwyl.

Yn Y Nant dw i ‘di dysgu cymaint, cael hwyl a gwneud ffrindiau da – ac, braidd yn annisgwyl ond yn wir, wedi mwynhau llawer o dywydd heulog!  Hefyd mae’r cyrsiau wedi rhoi’r hyder i mi gwneud llawer o bethau drwy’r cyfrwng Cymraeg, mewn siopau, chaffis a gwestai, mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol, ar teithiau cerdded efo’r criw o aelodau cymdeithas naturiaethwyr (Cymdeithas Edward Llwyd), wedi gwneud cwrs sgwennu creadigol Cymraeg am dysgwyr yn Nhŷ Newydd, a wedi mynd i’r Wladfa ym Mhatagonia efo criw o Gymry Cymraeg.  Ar y dechrau dim ond dysgu’r iaith o’r diwedd oedd ‘mwriad i, ond trwy i’w wneud o mae drws wedi cael ei agor i mi am cyfoeth y diwylliant Cymraeg ac, yn wirioneddol, trwy ei wneud o wedi cyfoethogi fy mywyd, felly diolch yn fawr, Nant G!

Cyngor i ddysgwyr eraill

  • Mae’n hollol normal teimlo’n nerfus yn dechrau trio siarad yr iaith – cofiwch bod chi ddim yr unig un sy’n teimlo fel ‘na! Os oes cyd-dysgwr sy’ ddim yn edrych yn nerfus, mwy na thebyg bydd yn nerfus ond yn dda iawn am cuddio’r ffaith!
  • Cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r iaith – bydd y mwyafrif o bobl eisiau helpu chi os ganddyn nhw yr amser. Wrth reswm, os bydd pobl yn brysur, efallai efo ciw yn aros i dalu mewn siop, byddai’n well aros am amser dawelach er mwyn trio siarad efo nhw
  • Ddylech chi byth yn cymryd yn ganiataol bod rhywun ddim yn siarad yr iaith pe tasai eu acen ddim yn swnio i chi fel ‘acen Cymreig’ – mae’n wastad gwerth chweil gofyn iddyn nhw.
  • Falle bydd pobl rydych chi’n nabod yn barod, mewn siopau, caffis ac yn y blaen, yn siarad yr iaith heb i chi gwybod – unwaith eto, gofynnwch iddyn nhw.
  • Os fedrwch ddim yn cofio gair Cymraeg, defnyddiwch gair Saesneg yn hytrach na phoeni gormod – mae pobl sy’n siarad yr iaith fel mamiaith cyntaf yn gwneud hwn trwy’r amser!
  • Ac, wrth gwrs, ymarfer, ymarfer, ymarfer!

Rhannwch eich sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad ebost yn cael ei gyhoeddi

feeb