Nant Gwrtheyrn Yfory

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Nant Gwrtheyrn Yfory

30 mlynedd yn ôl, gwnaed ymdrechion arwrol a lwyddodd i achub y Nant o fod yn bentref o adfeilion i fod yn Ganolfan i ddysgu’r iaith Gymraeg. “Byw fyddi Nant Gwrtheyrn” oedd yr arwyddair a daniodd y dychymyg. Ac fe wireddwyd y freuddwyd. Trwy nawdd sefydliadau, cwmnïau ac unigolion, adnewyddwyd y tai fesul un, crëwyd pentref newydd, trowyd Plas y Stiward yn ganolfan ddysgu ac addaswyd y Capel yn Ganolfan Treftadaeth a Gweithgareddau.

Elusen, gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr, yw’r Nant, ond un sydd wedi gorfod rhedeg y ganolfan fel busnes, heb ffrydiau cyson o arian cyhoeddus. Dros y blynyddoedd, denwyd dros 20,000 o ddysgwyr a gwelir “Mynd i Nant Gwrtheyrn” gan lawer fel y bilsen hud sy’n agor y drws i’r byd Cymraeg, gan mor effeithiol yw’r profiad dysgu yno. Bu nifer o diwtoriaid disglair ac ymroddedig yn gweithio yn y Nant dros y blynyddoedd ac ar hyn o bryd fe gyflogir dau diwtor llawn amser, ac un rhan amser. Yn ogystal, mae lle o fewn yr amserlen i ganiatáu i’r Nant gael ei defnyddio gan nifer o grwpiau allanol sy’n gwerthfawrogi’r adnoddau, yr heddwch a’r lleoliad arbennig, ac sy’n dychwelyd o flwyddyn i flwyddyn. Mae Caffi Meinir, sy’n darparu bwyd i’r preswylwyr, hefyd ar agor i’r cyhoedd ac yn boblogaidd iawn yn lleol, yn enwedig amser cinio dydd Sul, pan mae’n rhaid trefnu ymlaen llaw i fod yn sicr o’ch lle.

Neges gyson y defnyddwyr yw – bod y dysgu’n wych, y lleoliad yn rhyfeddol, a’r bwyd yn dda iawn. Ond i lawer, nid yw’r adnoddau llety a hamdden yr hyn y mae nhw’n ei ddisgwyl heddiw. Ar ben hyn, mae’n anochel fod y gwaith a wnaed yn y 70au – weithiau gan ddwylo dibrofiad – angen sylw erbyn hyn er mwyn gwarchod yr adeiladwaith ar gyfer y ganrif hon.

Daeth yn amser buddsoddi a gwario eto! Ond y tro hwn, cyn troi at ein cyfeillion, rydym wedi sicrhau symiau sylweddol iawn o arian a fydd yn sicrhau fod cyfran uchel o’r cynllun adnewyddu yn cael ei gyflawni, doed a ddêl. Mae grantiau amrywiol gwerth £2.9 miliwn wedi eu sicrhau eisoes. Ar ben hynny, derbyniwyd rhodd sylweddol iawn, ar ffurf eiddo, gan unigolyn sy’n dymuno bod yn ddi-enw. Y rhodd rhyfeddol yma sydd wedi ei gwneud hi’n bosibl i Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn freuddwydio am y trawsnewid hwn. Mae wedi sbarduno’r dychymyg ac wedi rhoi’r sylfaen ymarferol i ni adeiladu arno. Dyma rym haelioni!

Mae’r pamffledyn “Nant Gwrtheyrn Yfory” yn disgrifio’r chwe chymal datblygu, ac fe welwch fod y cyllid a addawyd eisoes yn ddigon i gyflawni tri o’r cymalau ( a rhan o’r pedwerydd). Rydym yn troi nawr at gylch ehangach o gyfeillion i ofyn a fyddai’n bosibl i chi ystyried cyfrannu at Gronfa a fyddai’n ein galluogi i gwblhau’r gwaith i gyd o fewn yr amserlen ddelfrydol – sef erbyn haf 2010 – ac i sicrhau fod gennym ddigon o gyfalaf gweithredol i wneud y defnydd gorau posib o’r adnoddau newydd. Byddai busnes arferol yn chwilio am fuddsoddiadau. Elusen yw’r Nant, felly cefnogaeth o fath gwahanol rydym yn chwilio amdano – ond i’r un pwrpas.

Nod y Gronfa hon yw codi £200,000 ac fe dderbynnir pob rhodd gan sefydliadau ac unigolion gyda diolch a gwerthfawrogiad mawr. Fel gydag elusennau eraill, gellir chwyddo gwerth pob cyfraniad gan Gyllid y Wlad, os ydych yn un sy’n talu Treth Incwm. Mae’r ffurflen gyfrannu yn rhoi lle i arwyddo ar gyfer hwyluso hynny. Mae’n nodi hefyd ddulliau gwahanol o gysylltu enw unigolyn neu sefydliad gyda rhan arbennig o’r gwaith. Eisoes, er enghraifft, cafwyd addewid gan Gyngor Sir Gwynedd o £32,000 tuag at adnewyddu tai “Arfon”, “Dwyfor” a “Meirionnydd”. Yn ddiweddar derbyniwyd £1,000 mewn ewyllys. Byddem hefyd yn croesawu addewidion o fenthyciadau, a all fod o gymorth mawr yn ystod y cyfnod hwn.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo cyn ymateb, mae croeso i chi gysylltu ag un ohonom trwy e-bost. Gellir hefyd gael gwybodaeth ar y ffôn gan Lois Elis, Swyddog Marchnata’r Nant ar 01758 750334

Mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd cyffredinol, mae hwn yn gyfle rhyfeddol i edrych i’r dyfodol a throi breuddwyd Nant Gwrtheyrn yn ffaith gyfoes, gadarn, mewn cyfnod byr o ddwy flynedd. Anelwn at greu sefydliad fydd yn creu 32 o swyddi parhaol gwerthfawr ar gyfer pobl leol mewn ardal sy’n dal yn un o gadarnleoedd naturiol y Gymraeg.

Mae’r contractwyr ar y safle ac mae’r haul yn gwenu. Dewch gyda ni ar y daith – byddwch yn rhan o’r fenter.

feeb