Nant Gwrtheyrn yn derbyn enwebiad am wobr Ewropeaidd bwysig

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Nant Gwrtheyrn yn derbyn enwebiad am wobr Ewropeaidd bwysig

Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol Cymru, Nant Gwrtheyrn, wedi ei henwebu am wobr Ewropeaidd bwysig. Mae’r ganolfan wedi’i henwebu yn y categori ‘buddsoddi mewn treftadaeth ddiwylliannol’ yng Ngwobrau RegioStars 2018 y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r gwobrau’n nodi arferion da o ran datblygu ranbarthol ac yn tynnu sylw at brosiectau gwreiddiol ac arloesol sy’n ddeniadol ac yn ysbrydoledig i ranbarthau eraill.

Bu rheithgor arbenigol o 15 aelod, o dan gadeiryddiaeth yr ASE Lambert van Nistelrooij a’r ASE Kerstin westphal, yn gwerthuso 102 o geisiadau a gyflwynwyd i’r gystadleuaeth eleni gan uno prosiectau mwyaf rhagorol Ewrop sy’n cael eu cefnogi gan bolisi cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r 21 a ddewiswyd o 20 aelod-wladwriaeth a phump o wledydd partner eraill.

Bydd y RegioStars 2018 yn gwobrwyo’r prosiectau polisi cydlyniant gorau mewn 5 categori: cyflawni trawsnewid diwydiannol; hyrwyddo ffordd o fyw carbon isel; gwella gwasanaethau cyhoeddus a’u gwneud yn fwy hygyrch; ymdrin â mudo yn y tymor hir; a chadw treftadaeth ddiwylliannol yr UE.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd Cyllid Cabinet Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch iawn o weld bod Nant Gwrtheyrn yn cael ei gydnabod ar gyfer y wobr Ewropeaidd fawreddog hon. Mae’n enghraifft wych o sut mae arian yr UE wedi ysgogi twf a thrawsnewid ardal leol drwy ddenu ymwelwyr i’r ganolfan unigryw hon ar gyfer diwylliant Cymru”.

Dywedodd y Comisiynydd polisi rhanbarthol Corina Creţu: “bob blwyddyn mae ein dyfarniadau RegioStars yn gosod y bar yn uwch ac yn uwch ac yn dangos sut y gellir defnyddio arian yr UE yn y ffordd orau bosibl. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r ymennydd a’r talentau sydd y tu ôl i’r 21 o brosiect mawr hyn “. Cyfarfu’r Comisiynydd Creţu bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Senedd Ewrop yn Strasbourg.

Mae ‘Gwobrau RegioStars’ yn gystadleuaeth flynyddol sy’n dewis y prosiectau polisi cydlyniant gorau. Bydd yr enillwyr ym mhob un o’r 5 categori yn cael eu cyhoeddi ar 9 Hydref, yn ystod wythnos 2018 yr UE o ddinasoedd a rhanbarthau.

Dywedodd Jim o’Rourke, arweinydd prosiect datblygu Nant Gwrtheyrn: “Roedd e’n gyfle braf i gynrychioli Nant Gwrtheyrn yn y seremoni i nodi llwyddiant y prosiect yn y Nant. Roedd cynrychiolwyr o’r pum prosiect diwylliannol sydd ar y rhestr fer yno i dderbyn tystysgrif a chanmoliaeth am eu llwyddiant yn hyrwyddo diwylliant eu gwledydd gyda chymorth grantiau o’r Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd fel partner i gyllido’r prosiectau. Derbyniodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn £2.8m o’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd ar gyfer y buddsoddiad i ail adeiladu’r pentref a’r cyfleusterau rhwng 2007 a 2015 ac roedd cyrraedd y rhestr fer yn ben llanw arbennig i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect. Bydd seremoni arbennig ym Mrwsel ar Hydref y 9fed i gyhoeddi enw’r enillydd gyda chyfle cyn hynny hefyd i’r cyhoedd ar draws Ewrop gyfrannu at y gystadleuaeth am y tro cyntaf trwy bleidleisio am eu hoff brosiect ar wefan y gwobrau. Edrychwn ymlaen yn awr at y daith nesaf i Frwsel i glywed pwy fydd yr enillydd!”

Gall pobl bleidleisio dros wobr dewis gyhoeddus 2018 RegioStars, ymhlith yr 21 a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni yn <http://EC.europa.eu/regional_policy/en/Regio-Stars-Awards/>

feeb