Nant Gwrtheyrn yn ennill gwobr Ewropeaidd bwysig – RegioStars 2018

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Nant Gwrtheyrn yn ennill gwobr Ewropeaidd bwysig – RegioStars 2018

Mae Nant Gwrtheyrn wedi ennill gwobr Ewropeaidd holl bwysig mewn seremoni wobrwyo ym Mrwsel yr wythnos diwethaf. Roedd y ganolfan wedi’i henwebu yn y categori ‘buddsoddi mewn treftadaeth ddiwylliannol’ yng Ngwobrau RegioStars 2018 y Comisiwn Ewropeaidd, gwobrau sy’n nodi arferion da o ran datblygu rhanbarthol, ac yn tynnu sylw at brosiectau gwreiddiol ac arloesol sy’n ddeniadol ac yn ysbrydoledig i ranbarthau eraill.

Mae 2018 yn Flwyddyn Diwylliant Ewrop, ac felly’r pwnc arbennig i Wobrau Regiostars eleni oedd y categori Buddsoddi mewn Treftadaeth Ddiwylliannol, gyda’r seremoni wobrwyo yn rhan o “European Week of the Regions, 2018”, a’r 11ddeg cystadleuaeth Regiostars i wobrwyo prosiectau da sydd wedi derbyn cefnogaeth grantiau gan arian strwythurol yr Undeb Ewropeaidd

Roedd tua 6,000 o bobl yn mynychu’r Gynhadledd dros yr wythnos, gydag oddeutu 1,000 o bobl yn y seremoni wobrwyo, ac yno yn derbyn y wobr ar ran Nant Gwrtheyrn oedd Jim O’Rourke, Arweinydd Prosiect Datblygu Nant Gwrtheyrn, a Catrin Roberts o WEFO, sef y Swyddog Prosiect bu’n cynorthwyo Nant Gwrtheyrn drwy’r broses ceisio am y grant.

Dywedodd Jim O’Rourke: “Roedd e’n fraint i gynrychioli Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ac i dderbyn y wobr Regiostars am y prosiect gorau ym Mlwyddyn Diwylliant Ewrop yn 2018 ar gyfer buddsoddiad mewn Treftadaeth Ddiwylliannol. Roedd cryn ganmoliaeth gan y panel beirniaid am y ffordd mae Nant wedi datblygu canolfan hyfyw gan ddefnyddio ein treftadaeth ieithyddol i ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion a chyfleoedd i ymwelwyr i fwynhau’r lleoliad hudol ac i ddysgu am ein hiaith a’n treftadaeth. Roedd creu 33 swydd a chroesawu dros 50,000 o ymwelwyr yn flynyddol mewn ardal wledig ddifreintiedig yn enghraifft arbennig o sut mae cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu at fudd economaidd, diwylliannol a chymunedol yng Ngorllewin Cymru. Cafwyd dros £2.8m o grant gan yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â grantiau gan Lywodraeth Cymru, y Loteri Treftadaeth a nifer o gyrff ariannu eraill i sicrhau buddsoddiad o dros £6m yn y pentref rhwng 2008 a 2015, ac roedd y seremoni hefyd yn gyfle i ddiolch am y gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd wrth ddathlu eleni 40 mlynedd ers agor y pentref i’r dysgwyr cyntaf yn 1978.”

Mae ‘Gwobrau RegioStars’ yn gystadleuaeth flynyddol sy’n dewis y prosiectau polisi cydlyniant gorau, gyda rheithgor arbenigol o 15 aelod, o dan gadeiryddiaeth yr ASE Lambert van Nistelrooij a’r ASE Kerstin Westphal, yn gwerthuso 102 o geisiadau a gyflwynwyd i’r gystadleuaeth eleni.

feeb