Rydym yn falch o fod yn rhan o gynllun newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i ddysgu Cymraeg i filoedd o oedolion.
Mae’r cyrsiau ‘cyfunol’ cenedlaethol newydd, sy’n cyfuno dysgu o bell dan arweiniad tiwtor gyda dysgu ar-lein annibynnol, wedi denu 1,300 o ddechreuwyr.
Fe ddechreuodd y cyrsiau rhad ac am ddim yr wythnos ddiwethaf, a byddant yn parhau am gyfnod o 10 wythnos. Mae dysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn ymuno â’r dosbarthiadau, gyda 89 o ddosbarthiadau rhithiol yn cael eu harwain gan diwtoriaid profiadol.
Dywedodd Rhodri Evans, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen newydd yma o gyrsiau. Rhwng tiwtoriaid llawn-amser y Nant a’n tiwtoriaid Cymraeg Gwaith, rydym yn gyfrifol am ddysgu dros 90 o ddysgwyr dros y 10 wythnos nesaf.
“Er bod y safle ar gau a’n cyrsiau preswyl wedi eu gohirio tan ddechrau mis Awst yn yr achos cyntaf, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod y Nant yn parhau i chwarae rôl allweddol yn narpariaeth addysg Gymraeg i Oedolion ar draws Cymru a thu hwnt. Mae pawb wedi gorfod ymateb ac addasu dros nos i argyfwng y coronafirws ac rwy’n hynod o falch o’r modd yr rydym, fel sector, wedi dod at ein gilydd i gynnal y cyrsiau hyn yn llwyddiannus. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn hyn yma, a hynny gan ddysgwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd.
“Wrth i bawb ohonom orfod addasu i’r realiti newydd yma, rydym wrthi’n archwilio posibiladau newydd ar gyfer darpariaeth gynhenid Nant Gwrtheyrn, fel bod modd i ni allu parhau i gynnig addysg a chefnogaeth o safon uchel i’n dysgwyr yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu dysgwyr yn ôl i safle unigryw Nant Gwrtheyrn pan y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny.”
Mae’r cyfnod diweddar yma wedi gweld cynnydd sylweddol ynnifer y bobl sy’n troi at ddysgu’r Gymraeg o’u cartrefi. Mae ystadegau diweddar gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dangos fod bron 7,000 o ddysgwyr newydd wedi dechrau dysgu Cymraeg drwy gyfrwng cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim ers canol mis Mawrth.
Am bob math o adnoddau, cymorth a chefnogaeth i ddysgu Cymraeg ewch i wefan y Ganolfan: dysgucymraeg.cymru