Gyda thymor newydd y Ganolfan ar y gweill, croesawyd Huw Jones, cyn Brif Weithredwr S4C, yn gyfarwyddwr newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn ddiweddar.
“Mae`na sawl datblygiad i`w groesawu ar gyfer 2007”, meddai`r Cadeirydd Jeff Williams-Jones, yn dilyn cyfarfod o`r Bwrdd yn Ionawr. “Mae cnewyllyn tîm o staff ymroddgar gennym ni a, gyda`r bwriad o benodi Prif Diwtor, ail-benodiad Jim O` Rourke fel ein ymgynghorydd gweithredol a dyfodiad Huw, mae`r Bwrdd a`r Ganolfan yn edrych ymlaen at wynebu sawl her positif eleni.”
“Eisoes, mae`r gwaith o adnewyddu rhai o`r tai ar y gweill gyda chymorth ariannol Cyngor Gwynedd ac mae trafodaethau wedi dechrau gyda chwmni pensaernïol i ddatblygu cynlluniau i adnewyddu ac uwchraddio gweddill yr ystâd ”.
Ar yr un pryd, mae`r `Nant`, fel yr unig Ganolfan breswyl o`i math yng Nghymru, wedi mabwysiadu perthynas agos â`r Adran Addysg Gydol Oes yn Llywodraeth y Cynulliad ynghyd â`r Ganolfan rhanbarthol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. “Dw i`n ffyddiog”, meddai`r Cadeirydd, “ y bydd y datblygiadau hyn yn dwyn ffrwyth ac yn ein galluogi i fod yn rhan annatod o`r ddarpariaeth ar gyfer hyrwyddo`r iaith ymysg dysgwyr. Fel Canolfan Ardderchogrwydd, edrychwn ymlaen at gynorthwyo`r Cynulliad yn ei nod o greu Cymru ddwyieithog hyderus fel y nod teilwng a amlygwyd yn Iaith Pawb”.