Neges gan ein Cadeirydd, Huw Jones ar ran yr Ymddiriedolaeth
Wrth i’r geiriau hyn gael eu hysgrifennu, mae effaith y coronafeirws mor ddrwg ag erioed. Ar hyn o bryd, yn anffodus, mae nifer o wasanaethau’r Nant (yn cynnwys Caffi Meinir) yn dal ar gau oherwydd hynny. Ond mae gobaith – mae’r brechiad wedi cyrraedd, diolch byth – ac mae hynny’n golygu ein bod ni’n gallu dechrau troi ein golygon at y dyfodol.
Wrth gwrs, mae’n mynd i gymryd amser cyn i bawb ei gael, ac mae yna berygl i ni ddechrau ymddwyn fel pe bai’r clwy’ wedi diflannu cyn bod hynny’n wir. Rhaid i ninnau yn y Nant osgoi syrthio i’r trap yna. Ond mi fedrwn ni fod yn hyderus y bydd o’n dechrau cilio maes o law ac y bydd hynny’n golygu y byddwn ni unwaith eto’n brysur wrth i chi ddechrau meddwl am ddod atom i ddysgu, i ddathlu ac i ddod am dro.
Drwy’r cyfnodau clo, rydan ni wedi llwyddo i gynnal gwersi ar-lein, i gynnal a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau digidol, ac i gadw’n presenoldeb yn fyw ac yn fywiog ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae Mair a’r tîm wedi bod yn cadw cysylltiad gyda’n cwsmeriaid, o ail-drefnu priodasau a chynadleddau i drio cadw i fyny gyda’r newidiadau yn y rheolau Covid. Fel pob busnes a chorff gwirfoddol, mae wedi bod yn amser heriol i ni. Rydan ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cadw’r gwaith yma i fynd drwy’r cyfnod tywyll ac yn ddiolchgar i chi, ein cefnogwyr a’n cwsmeriaid, am eich dealltwriaeth a’ch amynedd.
Mae’r gwaith o ail-adeiladu hen Feddygfa Llithfaen yn y Nant bron â gorffen. Bydd hwn yn atyniad newydd ac yn rheswm ychwanegol i chi ymweld â’r Nant. Fe fydd yn dangos sut oedd syrjeri doctor ym Mhen Llŷn yn edrych 60 mlynedd yn ôl. Mae yna obaith hefyd y bydd gennym fideos newydd i’w dangos, fydd yn adrodd hanes y Nant a hanes yr iaith Gymraeg, ac a fydd i’w gweld yn barhaol yn y Capel a’r Feddygfa.
Mae’r Cynllun Seibiant yn para tan ddiwedd Mawrth. Mae hynny’n beth da iawn i ni ac i lawer o fusnesau eraill yn y sector lletygarwch. Ein gobaith yw y byddwn yn ail-agor yn llawn o gwmpas y Pasg ac o’r pryd hynny ymlaen y byddwn yn fwy prysur nag erioed. Edrychwn ymlaen yn fawr at y cyfle i’ch croesawu chi i gyd yn ôl i fwynhau’r profiad arbennig y mae’r Nant yn ei gynnig, unwaith yn rhagor.
Cyfarchion yr Ŵyl i chi i gyd.
Ar ran Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn
Huw Jones, Cadeirydd