Rydan ni’n byw mewn cyfnod annhebyg i unrhyw beth mae unrhyw un ohonon ni wedi ei weld o’r blaen.
Mae Nant Gwrtheyrn, fel pob corff, cwmni a sefydliad arall, wedi gorfod ystyried yn ddwys beth i’w wneud o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, wrth i’r sefyllfa newid ac i gyngor neu reolau newydd gael eu gosod gan Lywodraeth.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Nant wedi penderfynu cymryd pob cam posibl yn awr i warchod iechyd y cyhoedd a’i staff. Bydd y Ganolfan a Chaffi Meinir ar gau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol. Mae’r lôn i’r Nant yn awr wedi ei chau. Bydd cnewyllyn bychan o staff yn gweithio o gartref i ddelio ag ymholiadau penodol a chynnal gweinyddiad craidd, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hymroddiad. Gallwch weld sut i gysylltu efo ni yma.
Credwn yn gryf y bydd yna ddydd yn dod pan y bydd hi’n bosibl i’r holl adnoddau a gwasanaethau gwych sydd ar gael yma, unwaith eto fod yn agored i gael eu mwynhau gan ddysgwyr a gan y cyhoedd.
Mae’r pentref yma wedi bod ar gau o’r blaen – am flynyddoedd – ac wedi codi yn ei ôl. Fe wnawn ni hynny eto – yn llawer cynt y tro hwn, gobeithio.
Dros y cyfnod nesaf, y wefan yma a’n sianelau cyfryngau cymdeithasol fydd Nant Gwrtheyrn.
Byddwn yn chadw ein sianelau digidol yn fyw ac yn eu defnyddio fel man cyfarfod i drafod y pethau hynny sy’n rhan naturiol o genhadaeth yr Ymddiriedolaeth – dysgu Cymraeg, hanes lleol a chenedlaethol, yr amgylchedd ac ati. Byddwn yn croesawu cyfraniadau gennych chi i’r drafodaeth, yn ogystal â’ch syniadau am sut y gall y Nant chwarae rhan bwysicach fyth ym mywyd Cymru pan ddaw haul ar fryn unwaith eto.
Yn yr 1970au fe wnaeth yr ymgyrch i achub y pentref hwn arwain at fwrlwm o weithgarwch i godi arian ac ail-adeiladu. Fe ysbrydolwyd cantorion a beirdd i ganu amdani. Yr un yw’r dôn heddiw: –
“Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn”
Huw Jones