Newyddion cyffrous

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Newyddion cyffrous

Newyddion cyffrous

gan Dr Carl Iwan Clowes

Gyda’r Nant wedi cau ar gyfer y cyrsiau arferol, ynghyd â lletygarwch y caffi, braf yw nodi bod rhai gweithgareddau yn mynd rhagddynt.

Ar lefel bersonol, ’dw i wedi cael y pleser o allu diweddaru fy llyfr ‘Nant Gwrtheyrn – Rebirth of a Lost Village’ a bydd y gyfrol newydd ar werth unwaith mae’r sefyllfa yn caniatáu inni wneud hynny.

I’r rheiny sydd wedi ymweld â’r Nant yn ddiweddar, bydd y gwaith sydd yn mynd ymlaen ochr ucha i Capel Siloh wedi tynnu eich sylw. Gwaith paratoi ar gyfer ail-greu hen feddygfa Llithfaen sydd yma, a hyn ar anogaeth yr Amgueddfa yn Sain Ffagan. Roedd y feddygfa – sef hen gwt sinc rhychiog ac yn nodweddiadol o gymaint o adeiladau yn y pentref ar un adeg – yn weithredol fel meddygfa nes imi ymddeol o’m practis meddygol ym Mro’r Eifl yn 1978. Yno, cefais sgyrsiau allweddol gyda Muriel Knox, a’i gwr a oedd yn arfer gweithio i berchnogion y ‘Nant’. Arweiniodd y trafodaethau hynny at bryniant Porth y Nant.  Yn fuan wedyn, daeth yr hen feddygfa yn swyddfa cyntaf Ymddiriedolaeth y Nant gyda’r diweddar Elspeth Roberts, Nefyn a Caren Ifans yn gyfrifol am y gwaith gweinyddol dydd i ddydd o’r fan honno.  Y nod rŵan yw ail-greu y feddygfa fel ydoedd gydag ychydig o hanes meddygaeth cefn gwlad Llŷn o’r ganrif ddiwethaf. Cymaint yw’r gwrthgyferbyniad â’r gwasanaeth heddiw, ’dw i’n siŵr y bydd pobl wedi rhyfeddu at y sefyllfa gyntefig oedd yn bod ar y pryd.

I orffen, bydd rhai ohonoch wedi clywed ac wedi gweld perfformiad ‘Rhys a Meinir’, gwaith cerddorfaol a gyfansoddwyd gan fy mab, Cian Ciarán gyda mewnbwn Rhys Ifans a Gruffudd Antur, ar gyfer sioe a rhaglen deledu. Gallwch wrando ar yr albwm ar Spotify:

https://open.spotify.com/album/73DaYX6twRFE98D4NaviPS

Bellach, gydag anogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae cerdd ‘Meinir yw Iaith Amynedd’ gan Karen Owen, y bardd o Benygroes, wedi ei hychwanegu at y perfformiad. Dyma gopi o gerdd Karen ac mae CD ‘Rhys a Meinir’ ar gael ar-lein o siop y Nant (pan fydd y siop wedi ail-agor), neu os hoffech brynu’r pecyn dros y misoedd nesaf cysylltwch gyda’r cwmni recordiau: strangetownrecords@gmail.com

Cadwch yn ddiogel!

2 thoughts on “Newyddion cyffrous

  1. Aled Williams

    Cofiaf y feddygfa’n dda yng nghyfnod Dr. Kiff – a rhan o’ch cyfnod chi yno, wrth gwrs. Yn ystafell ymaros y feddygfa, byddai dwy fainc a hen dân trydan ‘coiled element’ agored. Da o beth y byddai plant yn gymharol ddisgybledig yr adeg honno!
    Roedd ‘siop chips’ yr ochr arall i’r adeilad ac iddo gorn ar gyfer y ffrio. Yno byddai Mr a Mrs T. O. Williams yn paratoi’r ymborth.

    • Carl Iwan

      Diolch Aled – ac os oes gennych unrhyw atgofion eraill o’r Nant, meddyginiaethau amgen ac yyb, byddai’n braf glywed gennych chi.

Comments are closed.

feeb