Newyddion Ebrill

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion Ebrill

Dynodwyd 2019 fel blwyddyn ‘Darganfod’ gan Groeso Cymru eleni a dyma’r drydedd flwyddyn i ni yma yn y Nant gynnal cwrs sydd yn cyd fynd â’r blynyddoedd thema hyn. Cynhaliwyd cwrs ‘Darganfod Ynys Môn’ dan ofal Delyth Roberts yn ystod mis Mawrth. Roedd y cwrs yn gyfle i ddysgwyr lefel Uwch 2 ymarfer eu Cymraeg ac ehangu eu geirfa a’u gwybodaeth am hanes a threftadaeth Ynys Môn. Cafwyd dwy noson ddifyr o adloniant gan Ifor ap Glyn yn trafod tafodiaith Môn a Bedwyr Rees yn adrodd ychydig o hanes yr ynys. Uchafbwynt y cwrs oedd y trip o amgylch Ynys Môn ar y dydd Mercher! Bu’r criw yn ymweld â Llanfairpwll, cael hanes y Royal Charter ym Moelfre, ymweld â siop y cigydd yn Amlwch a cherdded ychydig ar fynydd Paris.

Mae hi wastad yn braf croesawu pobl o bob cwr o’r byd yma i’r Nant, yn enwedig os ydyn nhw’n awyddus i ddysgu ychydig o’r iaith! Daeth criw o fyfyrwyr chweched dosbarth yma ar ymweliad o Lydaw yn ddiweddar a bu’r tri deg ohonyn nhw’n mwynhau gwers Gymraeg a the Cymreig yng Nghaffi Meinir. Difyr oedd eu gweld yn dysgu’r iaith mor sydyn gan fod eu hiaith nhw mor debyg i’r Gymraeg.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu Ifor ap Gyn, sydd bellach yn Fardd Cenedlaethol Cymru, yn ôl yma i’r Nant ddiwedd Mai. Bydd Ifor yn cynnal cwrs arbennig o’r enw ‘Rho awch ar dy Gymraeg’. Bydd y cwrs yn gyfle i’r dysgwyr edrych ar rai o’r triciau y gellir eu defnyddio i gyfoethogi eu Cymraeg a gwneud iddi swnio’n fwy naturiol. Bydd cyfle, hefyd, iddynt ddysgu mwy am idiomau’r Gymraeg a ph’ryd i’w defnyddio, nodweddion tafodieithol, sut mae cynffoneiriau gwahanol (e.e. ynde, ‘lly, ‘sti, m’wn) yn gallu chwarae eu rhan mewn sgwrs ac wrth ddweud stori, rhegi yn Gymraeg a hiwmor Cymraeg yn gyffredinol. Bydd Ifor, hefyd, yn ceisio adnabod patrymau Saesneg sy’n gallu sleifio mewn i’n Cymraeg ni – a dysgu sut i’w newid nhw am batrymau mwy Cymreigaidd.

Magwyd Ifor yn Llundain ond mae’n byw bellach yng Nghaernarfon. Mae ganddo radd mewn Cymraeg a Hanes Cymru, o Goleg y Brifysgol Caerdydd, ac y mae wedi cynhyrchu sawl cyfres ynglŷn â’r iaith Gymraeg i S4C a Radio Cymru, gan gynnwys ‘Ar Lafar’ a ‘Hanes yr Iaith mewn 50 gair’.

feeb