Blwyddyn Newydd Dda i chi ‘gyd!
Wedi seibiant dros gyfnod y Nadolig mae’r pentref yn fwrlwm unwaith eto gyda gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn y caffi. Bydd yr estyniad diweddaraf yn cynnwys toiledau newydd ar gyfer cwsmeriaid Caffi Meinir ynghyd â storfeydd a swyddfa. Felly, os ydych yn dod i lawr i’r Nant am ginio neu baned, cofiwch ddefnyddio’r fynedfa drwy brif ddrws y neuadd.
Daeth Ysgol Bro Lleu draw i’r Nant ar ymweliad diwedd tymor cyn y Nadolig. Bu cyfle i’r plant ddysgu ychydig am arferion y Nadolig yn ystod oes Fictoria a chael profi sut oedd bywyd plentyn yn y Nant yn ystod cyfnod y chwareli.
Cynhaliwyd cynhadledd breswyl Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor sef Saltmarsh NET Workshop yma yn y Nant yn ystod mis Rhagfyr ac roedd yn bleser croesawu trawstoriad o bobl o bob rhan o’r byd yma i’r Nant yn ystod yr wythnos.
Mae’r rhaglen o gyrsiau ‘Cymraeg Gwaith’ yn parhau gydag aelodau staff o wahanol sefydliadau ar draws Cymru yn mynychu ein cyrsiau yn wythnosol.
Diolch i bawb wnaeth gyfrannu tuag at wneud Nos Galan yn y Nant yn noson werth chweil eleni! Roedd pawb wedi mwynhau’r adloniant gan Patrobas a Band Pres Llareggub.
Rydym yn edrych ymlaen at noson Gŵyl Ddewi erbyn hyn yn ogystal â dathliadau Santes Dwynwen, San Ffolant a Sul y Mamau.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu eich tocynnau.