Rhyw fis llawn cynadleddau ac encilion fu mis Ebrill yma yn y Nant. Dychwelodd criw Ymddiriedolaeth Greensville i’r Nant ar encil unwaith eto eleni yn haul braf gwyliau’r Pasg. Cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru a Chynhadledd flynyddol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yma yn ystod mis Ebrill, hefyd.
Cynhaliwyd sawl cwrs llwyddiannus yn y Nant yn ystod y mis diwethaf. Daeth criw da o ddysgwyr draw atom i fynychu’r cwrs Mynediad Rhan 1 yn ddiweddar. Roedd sawl un wedi mynychu’r cwrs Cyn-fynediad yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn blasu rhywfaint ar yr iaith. Mae’n galonogol iawn gweld dysgwyr yn dychwelyd yma ac yn parhau ar eu taith iaith. Hoffai staff y Nant ddymuno’n dda iddynt a gobeithio y byddwn yn cael cyfle i’w croesawu eto yn y dyfodol.
Mae’r Sesiynau Sgwrsio hwyliog yn parhau i ddigwydd yma ar brynhawn Mercher gyda chefnogaeth siaradwyr Cymraeg lleol. Mawr yw ein diolch iddynt am eu brwdfrydedd dros gefnogi’r dysgwyr.
Rydym yn edrych ymlaen bellach at groesawu Bethan Gwanas atom fel Tiwtor gwadd unwaith eto eleni. Yn sgil llwyddiant cwrs ‘Merched mewn Llenyddiaeth Gymraeg’ y llynedd, bydd Bethan yn arwain cwrs ar rai o awduron cyfoes gorau Cymru – awduron amrywiol megis Manon Steffan Ros, Sonia Edwards a Lleucu Roberts, ond dynion hefyd y tro hwn megis Rhys Iorwerth, Mihangel Morgan ac Ifor ap Glyn. Rhyddiaith fydd dan y chwyddwydr yn bennaf, ond bydd sylw hefyd yn cael ei roi i gerdd neu ddwy, a bydd cyfle hefyd i gyfarfod ag ambell un o’r awduron. Mae Bethan yn awdures ac yn diwtor Cymraeg profiadol erbyn hyn, bydd yn siŵr o fod yn gwrs difyr, addysgiadol a hwyliog!