Haul, Haul a mwy o Haul! Ydi wir, mae hi wedi bod yn fis gogoneddus! A ble well i fwynhau’r heulwen nag yma yn nhawelwch a mwynder y Nant? Braf iawn oedd gweld cynifer yn dod yma am dro yn ystod wythnos hanner tymor yn ddiweddar.
Daw ymwelwyr yma i’r Nant o bell ac agos drwy gydol y flwyddyn ac wrth i’r Haf ein cyrraedd mae’r cwmnïau bysiau yn dychwelyd. Mae cwmni Backroads Travel wedi bod yn galw ers rhai blynyddoedd bellach a phleser yw eu croesawu yn ôl eleni. Rhyw 15 i 20 o ymwelwyr o’r America, Awstralia neu Seland Newydd fydd yn ymweld gyda’r cwmni fel arfer – pob un yn awyddus i ddysgu ychydig o’r Gymraeg a chlywed am hanes y Nant cyn mwynhau te Cymreig yng Nghaffi Meinir.
Bu dau ymweliad gan gymdeithasau i’r Nant yn ystod mis Mai. Y cyntaf oedd ymweliad cangen Merched y Wawr Llandegfan, Ynys Môn. A’r ail griw i ymweld oedd cymdeithas Capel Soar Llanfairtalhaiarn, Abergele. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau’r sgwrs, y daith dywys a’r bwyd i ddilyn yng Nghaffi Meinir.
Rhwng y 7fed a’r 11eg o Fai bu oddeutu 45 o fyfyrwyr nyrsio a meddygaeth o Brifysgol Abertawe ar gwrs dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn. Rhoddodd Carl Clowes, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, sgwrs iddynt ar y nos Fawrth, bu Edward Morus Jones yn eu diddanu ar y nos Fercher ac fe gawsant wledd i goroni’r wythnos gan Gwilym Bowen Rhys ar y nos Iau cyn i rai ymweld â´r Fic. Ar y prynhawn Mercher buont yn ymweld ag amrywiaeth o weithleoedd iechyd a oedd yn berthnasol iddynt megis cartref henoed Plas Hafan, ysbyty Bryn Beryl, ysbyty Allt Wen a chartref dementia Bryn Seiont Newydd. Bu rhai hefyd yn ymweld â Bragdy Cwrw Llŷn cyn i bawb gyfarfod yng Nghaernarfon i fwynhau awyrgylch Gymreig y dref dan arweiniad Rhys Mwyn. Dywedodd un o’r mynychwyr ar ddiwedd yr wythnos “The location of Nant Gwrtheyrn is breath-taking. It is the most perfect location to learn Welsh. You are completely submerged in the language and culture of Wales”. Mynegodd un arall bod y profiad wedi adfer “a strong sense of Welsh pride and desire to learn and practice the Welsh language”.