Newyddion o’r Nant – Awst 2017

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Awst 2017

Bu haf 2017 yn dymor prysur iawn yma yn y Nant – braf oedd gweld cynifer o ymwelwyr o bell ac agos yn ymweld âr pentref, boed ar gyfer cwrs, priodas neu ymweliad dydd.

Roedd yn bleser Estyn croeso i ddisgyblion a staff o Ysgol Cymerau, Pwllheli, a ddaeth draw i’r Nant cyn torriad yr Haf i dreulio’r diwrnod yn ymgymryd â amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar chweld Rhys a Meinir. Bu cyfle i’r plant ddysgu mwy am ffordd o fyw trigolion y Nant yn ystod oes y chwareli ithfaen, hefyd.

Unwaith eto eleni, bu Llion Williams yn cynnal sesiynau blasu iaith arbennig ar gyfer ymwelwyr yma yn y Nant ac yn Aberdaron. Roedd y sesiynau yn gyfle i ymwelwyr â’r ardal gymryd rhan mewn gwersi byr a oedd, mi allw’ch fentro dweud, yn llawn hwyl a sbri o dan arweiniad Llion. Bu Llion, hefyd, yn tywys taith fws arbennig o amgylch ardal Llŷn yn ystod mis Awst ac wythnos gyntaf Medi – y daith hon, hefyd, ar gyfer ymwelwyr â’r ardal.

Cynhaliwyd y sesiynau blasu iaith a’r teithiau bws dan nawdd AHNE Llŷn mewn cyd weithrediad â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phartneriaeth Twristiaeth Aberdaron.

Ers y llynedd, mae Croeso Cymru wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd blynyddol yn canolbwyntio ar wahanol themâu er mwyn hybu’r niferoedd o ymwelwyr â Chymru ac i’w haddysgu am hanes a thraddodiadau hen a newydd ein cenedl. Blwyddyn Antur oedd hi y llynedd a blwyddyn y môr fydd hi yn 2018, ond eleni, blwyddyn chwedlau oedd hi – ble well, felly, i ddathlu’r traddodiad arbennig hwn na’ yma yn Nant Gwrtheyrn?! Bu Gweithdai Chwedlau arbennig yn cael eu cynnal yma pob dydd Mawrth yn ystod mis Awst. Roedd pob gweithdy yn unigryw ac yn canolbwyntio ar un o brif chwedlau’r Nant pob wythnos – cafwyd weithdy crefft Rhys a Meinir, helfa drysor Elis Bach, gweithdy Gwrtheyrn a gweithdy creu masgiau Luned Bengoch! Diolch yn fawr iawn i Gwenda Williams am ei gwaith a’i chreadigrwydd wrth fynd ati i gynnal y gweithdai! Cynhaliwyd y Gweithdai Chwedlau dan nawdd Croeso Cymru mewn cyd weithrediad â chynllun Bws Arfordir Llŷn a’r #Ecoamgueddfa.

A fuoch chi yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni? Roedd y Nant yno ym Maes D trwy’r wythnos yn cymdeithasu gyda’r dysgwyr ac yn rhannu gwybodaeth am ein cyrsiau newydd ar gyfer 2018.

Llongyfarchiadau mawr iawn i Phyllis Ellis, Ysgrifennydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn, ar gael ei hurddo i wisg las Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar ddydd Llun yr Eisteddfod. Mae Phyllis wedi bod yn aelod blaenllaw o Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers 1990 ac mae hi’n berson ymroddgar iawn yn ei chymuned yn lleol. Llongyfarchiadau mawr iddi ar dderbyn yr anrhydedd hon!

Llongyfarchiadau i’r staff yng Nghaffi Meinir sydd wedi derbyn canlyniadau TGAU a Lefel A yn ddiweddar. Pob lwc i’r rhai ohonoch sydd yn mynd ymlaen i’r coleg neu Brifysgol.

feeb