Newyddion o’r Nant – Chwefror 2016

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Chwefror 2016

Er nad yw hi’n un ddieithr i’r Nant o bell ffordd, braf yw cael croesawu Eleri Llewelyn Morris i’w swydd newydd fel Prif Diwtor. Mae Eleri wedi bod yn diwtor achlysurol yn y Nant ers blynyddoedd a bydd ei phrofiad a’i brwdfrydedd yn gaffaeliad mawr i’r ganolfan.

Er nad oes gwersi yn cael eu cynnal yn ystod mis Ionawr, mae’r adran addysg wedi bod wrthi’n ddiwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi a chynllunio cyrsiau newydd ar gyfer 2016. Cwrs newydd sbon yw’r cwrs ‘Blas o Lŷn’ a fydd yn cael ei gynnal rhwng y 19ed a’r 21fed o Ebrill. Cwrs newydd a chyffrous sy’n cyflwyno iaith, ardal a diwylliant Pen Llŷn i bobl ddi-Gymraeg a dechreuwyr yw ‘Blas o Lŷn’. Bydd y cwrs yn cynnig teithiau a phrofiadau diddorol o amgylch yr ardal gydag ymweliad ecsgliwsif i fragdy Cwrw Llŷn! Ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai â diddordeb? Rhywun sydd newydd symud i’r ardal ac yn awyddus i ddysgu’r Iaith ac am hanes a diwylliant Pen Llŷn, efallai?

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf y flwyddyn ddiwedd Ionawr a braf iawn oedd cael croesawu aelodau o Esgobaeth Bangor yn ôl i’r Nant unwaith eto.

Roedd bwrlwm yng Nghaffi Meinir fore Llun y 25ain o Ionawr gan fod rhaglen Bore Cothi BBC Radio Cymru wedi ymweld â’r Nant i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen. Bu Siân Cothi yn sgwrsio gydag aelodau o staff ac yn blasu rhai o ddanteithion Caffi Meinir. Cafwyd performiad byw gwerth chweil gan Seimon Menai, hefyd.

feeb