Mae’r Nant ‘ma yn werth ei weld ar ddiwrnod o wanwyn gyda’r coed yn blaguro’n araf a’r gwair yn glasu yn yr heulwen braf!
Roedd y Nant yn fwrlwm yn ystod penwythnos cyntaf mis Ebrill gyda rownd gyntaf y ‘British Downhill Series’ yn cymryd lle yma. Ers rhai blynyddoedd, bellach, mae trac beicio mynydd wedi ei ddatblygu yn y coed sydd yn arwain i lawr i bentref Nant Gwrtheyrn. Mae darnau o’r trac yn dilyn yr hen ffordd i lawr i’r pentref a’r gweddill yn dilyn llwybyr newydd sydd wedi ei gynllunio ar y cyd gydag Antur Stiniog. Dyma’r ail dro i’r bencampwriaeth gymryd lle yn y Nant ac mae’r trac yn cael ei gydnabod fel un o’r anoddaf i’w rasio ym Mhrydain! Braf oedd gweld y pentref yn llawn o bobl brwdfrydig ac a oedd wrth eu boddau yn gwneud defnydd o dirwedd unigryw y Nant. Llongyfarchiadau mawr i Rachel Atherton a Danny Hart am ennill y rownd gyntaf yma yn y Nant.

Diolch yn fawr i griw sefydliad y Merched, Clynnog, a ddaeth i lawr i Gaffi Meinir am eu Cinio Gŵyl Ddewi eleni. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau eich amser yma yn y Nant.
Profiad cwbl newydd i ni yma yn y Nant oedd mynychu sioe dwristiaeth a theithio prydain, y ‘British Tourism and Travel Show 2017’ yn yr NEC yn Birmingham. Roedd gan y Nant bod ar stondin Croeso Cymru yn y sioe ac roedd yn bleser cyfarfod â phobl o wahanol gefndiroedd yn y maes twristiaeth. Ein bwriad oedd denu mwy o bobl ar dripiau i fwynhau’r hyn sydd gan y Nant i’w gynnig ac rydym yn falch iawn o’r ymateb a gafwyd yn y sioe.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at lansio ein bwydlen newydd yng Nghaffi Meinir ar gyfer y Gwanwyn a’r Haf, eleni. Mae tîm Caffi Meinir wedi bod yn gweithio’n galed yn datblygu ryseitiau gan ddefnyddio’r gorau o gynnyrch lleol – dewch draw i’w blasu!
Cofiwch bod modd archebu bwrdd ar gyfer ein cinio Sul bendigedig a gyda’r tywydd yn gwella, beth am archebu te prynhawn a’i fwynhau yn yr ystafell haul neu ar y dec yn edrych allan ar y môr a thrwyn Porthdinllaen?
Cysylltwch â Chaffi Meinir ar 01758 750 442.