Newyddion o’r Nant – Gorffennaf 2016

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Gorffennaf 2016

Mae nifer o grwpiau wedi ymweld â’r Nant yn ystod mis Mehefin. Cangen Merched y Wawr Llaniestyn oedd y cyntaf o’r rhain i ymweld a chael sgwrs am hanes y Nant, taith o amgylch y pentref a phryd o fwyd yng Nghaffi Meinir. Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o ganghennau Merched y Wawr Deudraeth a Llan Ffestiniog i’r Nant. Roedd y ddwy gangen wedi mwynhau gwibdaith o amgylch Pen Llŷn cyn dod i lawr i’r Nant am sgwrs, taith a phryd o fwyd. Gobeithio eich bod oll wedi mwynhau eich ymweliad â’r Nant.

Pleser oedd croesawu disgyblion ysgol Mountkelly o Sir Ddyfnaint yma i’r Nant yn ystod y mis. Roedd yr ysgol yn ymweld â gogledd Cymru ac yn cymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys ymweliad â’r Nant. Bu’r disgyblion yn mwynhau taith gerdded o amgylch y pentref gan ddysgu’r hanes unigryw sydd yn perthyn i’r Nant. Yna, cafwyd gwers Gymraeg syml cyn mwynhau te prynhawn Cymreig yng Nghaffi Meinir.

Diolch i’r ddwy ysgol uwchradd leol a fu yn y Nant yn cynnal eu prom blynyddol. Bu Ysgolion Botwnnog a Glan y Môr yn y Nant yn ystod dau brynhawn ddiwedd y mis.

Gyda gwyliau’r haf yn agosáu, bu Ysgol Hirael yn y Nant am drip diwedd tymor yn ystod mis Mehefin. Bu’r disgyblion yn mwynhau clywed hanes Rhys a Meinir a gweld sut oedd teulu’r chwarelwyr yn byw yn y tŷ cyfnod cyn mynd ati i gymryd rhan mewn helfa drysor a gweithgareddau crefft.

Mae tipyn o ddysgwyr wedi bod yn mynychu’r cyrsiau yn ystod mis Mehefin a phob un ohonynt yn mwynhau gweithgareddau gwahanol ar brynhawniau Mercher. Bydd rhai yn mynd am drip i Bwllheli neu i ymweld â’r amgueddfa yn Nefyn a dysgwyr lefelau uwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda phobl yr ardal. Mae’r sesiynau sgwrsio hyn yn profi’n boblogaidd iawn ymysg y dysgwyr – diolch yn fawr iawn i’r rhai sydd yn dod i lawr i’r Nant i gymryd rhan yn y sesiynau hyn!

feeb