Er yr holl dywydd cyfnewidiol yn ddiweddar – mae’r Nant yn fwrlwm a phawb yn edrych ymlaen at dymor prysur yr Haf.
Bydd y Nant yn crwydro unwaith eto eleni i ymweld â Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Byddwn yn lansio rhaglen gyrsiau 2018 ac yn cynnig gostyngiadau arbennig ar ein cyrsiau – Cofiwch alw draw i’n gweld!
Yn ôl adref – bydd rhaglen gyffrous o weithgareddau yn cymryd lle yn ystod mis Awst. Bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithdai crefft, helfa drysor a gweithdy drama i gyd yn ymwneud â chwedlau Nant Gwrtheyrn. Cysylltwch am fwy o wybodaeth: 01758 750 334

Mae’r tywydd braf wedi denu amryw o grwpiau i ymweld â’r Nant yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fel rhan o daith o amgylch Pen Llŷn, death aelodau o Eglwys Farmor Bodelwyddan draw i’r Nant i dderbyn sgwrs, taith gerdded a phaned cyn mynd ymlaen ar eu taith tuag at Aberdaron.
Criw arall wnaeth ddychwelyd i’r Nant eleni oedd grŵp ‘Dysgwyr Llandudno’ a braf oedd gweld hen gyfaill a chyn diwtor y Nant, Howard Edwards, yn eu plith. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau’r helfa drysor o amgylch y pentref!
Cynhaliwyd Gŵyl arbennig Dewin a Doti y Mudiad Meithrin yma yn y Nant yn ystod mis Mehefin gyda hyd at 200 o blant a rhieni yn mwynhu pob un o’r dair sioe.
Cwrs cwbl newydd i ni ei gynnal yma yn y Nant oedd cwrs Y Ffilm Gymraeg. Hwn oedd y cwrs cyntaf i Mared Llywelyn Williams o Forfa Nefyn ei gynllunio a’i ddysgu, ac roedd yn gwrs eithriadol o lwyddiannus. Roedd cyfle arbennig i’r dysgwyr ymweld â’r Ysgwrn tra yn astudio’r ffilm Hedd Wyn. Diolch yn fawr i Mared am ei Gwaith. Diolch, hefyd, i Mr William Roger Jones, Llanbedrog, am ei sgwrs hynod o ddiddorol am yrfa ei ewythr, yr actor Huw Griffith. Roedd pawb wedi gwirioni cael cyfle i afael yn Oscar Huw Griffith!
Cofiwch bod croeso i bawb ymuno yn nosweithiau adloniant y Dysgwyr sydd yn cymryd lle, fel arfer, am 7:30 yr hwyr ar nosweithiau Mawrth a Iau. Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth: 01758 750 334