Newyddion o’r Nant – Mai 2016

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Mai 2016

Yda’ chi wedi bod draw i weld Caffi Meinir ar ei newydd wedd eto? Dewch da chi, mae’n werth ei weld! Braf oedd gweld cynifer ohonoch yn dod i lawr yma yn ystod gwyliau’r Pasg eleni. Cofiwch fod y Ganolfan Dreftadaeth, y Tŷ Cyfnod a’r Caffi yn agored pob dydd rhwng 10y.b a 4y.h.

Cynhaliwyd cynhadledd y Gymdeithas Gristnogaeth yma yn ystod ail benwythnos y mis gyda ffilm yn cael ei dangos ar y nos Wener a chyflwyniad gan John Gwilym Jones yn y capel ar y dydd Sadwrn. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau eich amser yma yn y Nant.

Bu cryn ddathlu yma yng ngwledd briodas Owain a Fflur o Dudweiliog ar y 9fed o Ebrill! Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonoch a diolch i chi am ddewis y Nant fel lleoliad ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu Ana Chiabrando Rees yma i’r Nant yn ystod Mis Mai. Mae Ana yn dod i ymweld â Chymru’r holl ffordd o Batagonia. Bydd Ana yn treulio wythnos yn y Nant yn gwneud gwaith Gwirfoddol gyda’r adran Addysg. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i’r Nant i glywed Ana yn adrodd ei hanes ac yn rhoi sgwrs am Batagonia ar Nos Iau, Mai 19. Dewch yn llu!

O bryd i’w gilydd, rydym yn croesawu grwpiau o bedwar ban y byd yma i’r Nant. Llawer ohonynt yn awyddus iawn i ddysgu ychydig o’r iaith a’r hanes sydd yn perthyn i’r Gymraeg. Cawsom y pleser o groesawu criw brwdfrydig o fyfyrwyr o Lydaw yma i’r Nant yn ddiweddar. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Llydaweg iaith gyntaf ac roedd yn eithriadol o ddiddorol gweld cynifer ohonynt yn cael cystal gafael ar y Gymraeg mewn ychydig o amser. Wedi’r wers, cafwyd taith dywys o amgylch y pentref a chyfle i glywed hanes unigryw’r Nant cyn gorffen yr ymweliad gyda the Cymreig yng Nghaffi Meinir.

Cynhaliwyd cwrs lefel Mynediad 1 llawn dop yn ystod wythnos olaf y mis. Roeddem yn falch o groesawu Jo Toft o Fynytho ar y cwrs. Bydd Jo, sydd yn olygydd y cylchgrawn newydd We Love Llŷn, yn ysgrifennu am ei phrofiad yma yn y Nant yn rhifyn haf y cylchgrawn newydd.

Llongyfarchiadau mawr i Heledd Davies-Jones, sydd yn gweithio yn adran gyllid y Nant, a’i gŵr Aled ar enedigaeth merch fach o’r enw Nansi. Dymuniadau gorau i chi fel teulu oddi wrth bawb yma yn y Nant.

feeb