Newyddion o’r Nant – Mawrth 2017

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Mawrth 2017

Mae hi’n wanwyn o’r diwedd yma yn Nant Gwrtheyrn! Gyda’r llwybyr rhwng y Plas a Chaffi Meinir yn drwch o gennin pedr a’r ddwy faner yn chifio uwch ben y pentref rydym yn edrych ymlaen yn arw at y tymor newydd.

A wyddoch chi am ffordd arall o gyrraedd y Nant ‘ma heb ddefnyddio’r ffordd neu’r môr? Wel, wedi ei guddio ymysg y coed mae trac beicio mynydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gydag Antur Stiniog. Mae’r trac yn ymlwybro yr holl ffordd o’r maes parcio ym mhen y Nant ac i lawr i waelod y dyffryn! Er nad yw’r trac yn agored i’r cyhoedd, mae posib cofrestru ar un o ddyddiau ‘Uplift’ sydd yn cael eu trefnu gan Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni am ragor o wybodaeth!

Roeddem yn ffodus iawn o gael croesawu Academi Wales yn ôl i’r Nant unwaith eto eleni. Bu’r Academi yn cynnal eu Hysgol aeaf ar gyfer Llywodraeth Cymru yma yn y Nant yn ystod ail wythnos mis Chwefror gyda chynrychiolwyr o amryw o sefydliadau blaenllaw yng Nghymru yn mynychu.

Wedi seibiant dros fisoedd y gaeaf, mae tymor y cyrsiau wedi ail gychwyn gyda chyrsiau Cyn Fynediad a Mynediad 1 llawn yn ystod wythnosau cyntaf mis Chwefror! Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr amryw o gyrsiau arbennig sydd ymlaen yn ystod 2017. Y cyntaf o’r cyrsiau arbennig hyn yw cwrs wedi ei lunio a’i ddysgu gan yr awdures Bethan Gwanas – Merched mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Mae’r cwrs yn agored i ddysgwyr profiadol neu Gymry Cymraeg, felly, cysylltwch gyda ni os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno!

feeb