Newyddion o’r Nant – Mehefin 2016

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion o’r Nant – Mehefin 2016

Wel, mae’r haul yn tywynnu ar y Nant ‘ma bob diwrnod erbyn hyn! Mae’r pentref yn werth ei weld, gyda phlanhigion yn blodeuo ym mhob twll a chornel – rhaid i mi ganu clodydd i Wyn y garddwr am ei waith caled! Braf yw gweld cynifer ohonoch chi drigolion Llŷn, ynghyd ag ymwelwyr yr ardal yn dod i lawr i’r Nant i fwynhau’r arlwy yn y Tŷ Cyfnod, y Ganolfan Dreftadaeth a’r Caffi, wrth gwrs.

Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld eitem am ein Cwrs Natur ar raglen Heno, S4C, yn ddiweddar. Bu’r cwrs yn llwyddiant gyda chriw amrywiol o ddysgwyr ar wahanol lefelau yn cymryd rhan. Ar y diwrnod cyntaf, bu’r naturiaethwr Twm Elias yn arwain y dysgwyr ar daith gerdded o amgylch y Nant, i’r goedwig ac y lawr i’r traeth. Roedd y daith gerdded yn gyfle i Twm addysgu’r dysgwyr am rai o enwau Cymraeg y blodau a’r anifeiliaid gwyllt sydd i’w cael yn y Nant. Yna, cafwyd gweithdy fforio a choginio gyda Catrin Roberts ar ail ddiwrnod y cwrs. Ond, bu’n rhaid i Catrin ail feddwl ychydig am ble i fforio am y bwydydd gan fod geifr y Nant wedi bwyta’r rhan fwyaf o’r planhigion gwyllt! Diolch byth bod digonedd o blanhigion i’w cael yn y cloddiau o amgylch Llithfaen! Bu cyfle i bawb goginio’r hyn yr oeddent wedi ei fforio a bu gwledd o gawl dail poethion a bisgedi dant y llew!

Braf oedd croesawu criw Lleyn Ramblers yma i’r Nant yn ystod wythnos gyntaf y mis, gobeithio eich bod wedi mwynhau’r prynhawn yng Nghaffi Meinir. Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o Esgobaeth Bangor yn ôl i’r Nant am encil ddwy noson yn ystod y mis. Criw arall sydd wedi dychwelyd atom eleni yw cwmni C.K Tools o Bwllheli. Bu i’r cwmni gynnal cynhadledd ddeuddydd yma yn y Nant gyda 30 o staff y cwmni yn mynychu.

feeb