Bu i dair ysgol wneud y mwyaf o’r tywydd braf a dod draw am drip i’r Nant yn ystod yr wythnosau yn arwain tuag at doriad Sulgwyn eleni. Bu Ysgolion Abersoch, Y Faenol a Llanbedrog yn clywed hanes Rhys a Meinir a chael cyfle i weld ble oedd Tŷ Hen a Thŷ Uchaf sef cartrefi’r ddau gariad. Yna, cafwyd helfa drysor o amgylch y pentref cyn gwneud ychydig o grefftau ar ôl cinio. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau eich ymweliad â’r Nant!
Mae amryw o wahanol grwpiau yn ymweld â’r Nant yn ystod y flwyddyn. Un o’r grwpiau hyn yw cwmni teithiau Backroads, sef cwmni teithiau tywys ar gyfer grwpiau bychan. Mae Backroads wedi bod yn ymweld â’r Nant ers rhai blynyddoedd, bellach, ac rwyf yn falch o ddweud eu bod yn dychwelyd yn wythnosol unwaith eto eleni. Americanwyr neu bobl o Awstralia neu Seland Newydd yw’r bobl sydd yn ymweld fel arfer ac maent wrth eu boddau yn dysgu ychydig o’r iaith Gymraeg a chlywed hanes cyfoethog y Nant.
Mae hen edrych ymlaen at groesawu Mared Llywelyn Williams i’r Nant i gynnal cwrs arbennig Y Ffilm Gymraeg ddiwedd Mehefin. Bydd Mared yn canolbwyntio ar rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg ac yn mynd â’r dysgwyr am drip arbennig i’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn. Cyrsiau arbennig eraill gan yr adran addysg eleni fydd y cwrs Chwedlau a chwrs gan y ddawnswraig – Eddie Ladd. Bydd y cwrs chwedlau yn cael ei arwain gan Mair Tomos Ifans ac mae’n argoeli i fod yn gwrs hwyliog yn llawn straeon difyr. Ond, os mai dawnsio sydd yn mynd a’ch bryd – mae cwrs arbennig Eddie Ladd yn berffaith ar gyfer rhywun sydd eisiau arbrofi gyda geirfa gyfoethog yr iaith Gymraeg a’r ddawns greadigol. Mae’r cwrs yn agored i bawb, felly, cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Rydym yn falch iawn o groesawu Brian Pritchard atom i’r Nant. Mae Brian yn ymuno a’r tîm yn ei swydd fel rheolwr arlwyo yng Nghaffi Meinir. Dewch draw i flasu ein bwydlen newydd yn y caffi ble mae modd archebu brecwast o 9:30yb ymlaen a chinio o 12 y prynhawn. Cofiwch am Sul y Tadau ar ddydd Sul 18fed o Fehefin. Bydd cinio Sul arbennig ar gael yma yn y Nant gyda photel o gwrw Llŷn yn anrheg i bob tad. Cysylltwch â’r caffi i archebu bwrdd: 01758 750 442
1 image saved under June – Photos: News
Mae’r adran Addysg yn parhau i gynnal nosweithiau adloniant ar gyfer y dysgwyr a chofiwch bod croeso cynnes i bawb ymuno yn y nosweithiau hyn. Cysylltwch am ragor o wybodaeth neu cadwch lygaid allan ar ein tudalen Facebook.