Diolch yn fawr iawn i bawb ohonoch a ddaeth i gefnogi ein ffair Nadolig eleni. Roedd yn ddiwrnod bendigedig gyda haul y gaeaf yn disgleirio ar y pentref. Pleser oedd eich croesawu i lawr yma i’r Nant. Diolch yn arbennig i Fand Pres Pwllheli am ein diddanu yn ystod y dydd, i gwmni Berwyn am gludo pawb i lawr ac yn ôl i fyny drwy’r dydd a diolch i Siôn Corn am ymweld â ni wrth gwrs!
Ers i’r Nant sicrhau cyllid i gynnal cyrsiau arbennig ar gyfer gweithleoedd sef, Cyrsiau Cymraeg Gwaith, mae’r Nant wedi bod yn cynnal cyrsiau wedi’i teilwra yn arbennig ar gyfer gweithleoedd ledled Cymru. Eleni, bydd cyrsiau yn cael eu cynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pontypridd ac Aberteifi yn ogystal â chynnal y rhan helaeth o’r cyrsiau Cymraeg Gwaith yn y Nant. Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle arbennig i weithwyr o wahanol sectorau ledled Cymru fanteisio ar gwrs Cymraeg dwys gan roi’r hyder iddynt fynd yn ôl a defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae ‘tripiau prynhawn Mercher’ wedi dod yn draddodiad yma yn y Nant erbyn hyn ac mae’r cyrsiau Cymraeg Gwaith wedi mabwysiadu’r traddodiad yma. Mae pob dosbarth sydd yn mynychu cwrs Cymraeg Gwaith yn cael cyfle i ymweld â busnesau lleol sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu dosbarthiadau yn ymweld â busnesau lleol megis Cwt Tatws, Plas Hafan, Cwrw Llŷn a Choffi Poblado yn y gorffennol. Yn ddiweddar bu un criw Cymraeg Gwaith ar ymweliad â gwinllan Pant Du ym Mhenygroes. Diolch yn fawr iawn i Rich am y croeso cynnes!
Mi fydd cyrsiau prif ffrwd y Nant yn ail ddechrau ym mis Chwefror. Mae cynigion arbennig ar gael erbyn hyn wrth i chwi ymuno â chynllun Cyfeillion y Nant.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd oddi wrth bawb yma yn y Nant.