Newyddion y Gwanwyn

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion y Gwanwyn

Dwi’n mentro dweud bod y gwanwyn wedi dyfod yma yn y Nant, am ryw hyd beth bynnag! Mae’r cennin pedr yn werth eu gweld o amgylch y pentref a dwi’n falch iawn bod y geifr yn gadael llonydd iddynt hefyd!

Bu Wythnos Tapas Llŷn yn llwyddiant unwaith eto eleni. Diolch yn fawr iawn i bawb fu draw yma yn blasu’r fwydlen arbennig. Tydi hi’n braf arna ni hefo cymaint o gyfoeth o gynnyrch da yma ym Mhen Llŷn?

Da oedd gweld rhai o’n dysgwyr a chriw dysgwyr Dwyfor yn cymryd rhan yn yr orymdaith ym Mhwllheli i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, da iawn chi! Llongyfarchiadau mawr i griw’r Parêd am drefnu arbennig unwaith eto eleni.

Pwy fu’n gwrando ar raglen Any Questions, Radio 4, yn cael ei darlledu o’r Nant yn ystod mis Chwefror? Bu hi’n noson ddifyr o drafod a da oedd gweld trawstoriad eang o drigolion lleol yn llenwi’r neuadd. Ar y panel roedd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru; Carolyn Harris, Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe; Ken Clarke, y cyn Weinidog Ceidwadol, a’r newyddiadurwr Liam Halligan. Cwestiwn wnaeth dderbyn cryn gymeradwyaeth gan y gynulleidfa oedd cwestiwn gan Phil Lovell, sef, “Pam mae cymaint o bobol ddeallus ym Mhrydain mor anwybodus, a hyd yn oed yn hiliol, yn eu hagwedd at y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg?” doedd Carolyn Harris, Ken Clarke na Liam Halligan yn cytuno bod gwrthwynebiad i’r Gymraeg. Ond dywedodd Adam Price bod gan y BBC “gyfle enfawr… i godi ymwybyddiaeth yng ngweddill yr ynysoedd hyn” o’r iaith Gymraeg, awgrymodd – a’i dafod yn ei foch – y “gellid ail-frandio’r BBC yn Gorfforaeth Ddarlledu Frythonig”.  Aeth ymlaen i ddweud “Gan ein bod ni yma yn Nant Gwrtheyrn, sydd wedi’i henwi ar ôl brenin Prydeinig o Gymru, fe wnaeth rhywun drydar heddiw ei bod yn ffaith nad yw llawer yn gwybod amdani fod pawb yn siarad Saesneg tan fod y Sacsoniaid yn cyrraedd y glannau hyn yn y bumed ganrif, ac yna fe wnaeth pawb droi i siarad Cymraeg!’’ aeth ymlaen i ddweud bod y Gymraeg yn “rhan o etifeddiaeth gyffredin yr ynysoedd hyn. Dywedwch wrth bobol amdani, dathlwch hi.”

feeb