Newyddion yr Hydref

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Newyddion yr Hydref

Gyda thymor y priodasau yn dirwyn i ben a’r dail yn crino ar ganghennau hen goed y Nant – rydym yn edrych ymlaen at weithgarwch yr Hydref a’r Gaeaf.

Roedd yn bleser gennym groesawu aelodau o eglwys St Pauls, Knightsbridge, a fu yma’n aros yn ystod eu taith bererindod i Lŷn. Braf iawn yw gweld criw fel hyn yn parhau â’r traddodiad hynafol o ddilyn arfordir gogleddol Llŷn ar eu taith tuag at ben pellaf y penrhyn gan ymweld â’r Nant a lleoliadau hanesyddol eraill megis hen eglwys Pistyll.

Efallai bod ychydig ohonoch wedi sylwi’n barod ar y cwrw newydd sydd ar gael yng nghaffi Meinir. Mae’r amrywiaeth wedi tyfu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac erbyn hyn mae oergell llawn dop o gwrw a seidr Cymreig poblogaidd yma ynghyd â dewis da o gwrw Ewropeaidd ar dap – perffaith ar gyfer unrhyw ddathliad neu beth am ddod yma nos galan i’w blasu?!

Mae hen edrych ymlaen at lansio gwefan newydd sbon y Nant! Wedi misoedd o waith paratoi a chynllunio, mae hi bron iawn yn amser i’r wefan newydd ddod yn fyw ar y we. Cofiwch fynd i chwilio amdani ar nantgwrtheyrn.cymru yn ystod yr wythnosau nesaf!

feeb